Carwyn Jones a Theresa May yn Abertawe ym mis Mawrth eleni (Llun: Ben Birchall/ PA Wire)
Does gan Theresa May “ddim mandad” i wthio am Brexit caled ar ôl colli ei mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos diwethaf, ac mae Prif Weinidog Cymru wedi galw arni i ailystyried.

Mewn llythyr ati mae Carwyn Jones yn galw arni i “wrando” a “chydweithio” drwy alw am gyfarfod brys o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion sy’n cynnwys arweinwyr o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd nad oes ganddi fodd i “atal mynediad llawn a dilyffethair” i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd.

‘Rhaid iddi wrando’

“Mae Prif Weinidog y DU wedi cymryd un siawns yn barod ‒ ac wedi colli. Fydda i ddim yn gadael iddi chwarae hap ag economi Cymru a gyda swyddi a bywoliaeth pobol,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n rhaid iddi wrando bellach ar yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei ddweud o’r dechrau un; mae mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl yn ganolog i ffyniant Cymru ‒ a’r DU ‒ yn y dyfodol ac mae’n rhaid iddo gael blaenoriaeth yn y trafodaethau sydd ar fin cael eu cynnal.”

Dywedodd y bydd yn cyhoeddi papur i’r heriau a ddaw i’r cenhedloedd datganoledig o ganlyniad i Brexit, gan godi cwestiynau am yr amserlen o ganlyniad i’r “ansicrwydd” wedi’r Etholiad.

‘Sathru datganoli’

Ychwanegodd Carwyn Jones ei fod yn barod i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig – “drwy drafod ac nid drwy orchymyn a ddaw oddi fry ‒ er mwyn atal gwrthdaro o fewn ein marchnad fewnol ein hunain.”

“Os yw Prif Weinidog y DU yn barod i gydweithio fel hyn, fe weliff ein bod yn bartneriaid dibynadwy ac adeiladol. Os nad yw ‒ ac os bydd hi, yn lle hynny, yn ceisio sathru datganoli dan draed a gorfodi’r cenhedloedd datganoledig i dderbyn Deyrnas Unedig fwy unffurf a chanoledig, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond gwrthwynebu camau o’r fath.

“Dw i wedi dweud wrthi’n blwmp ac yn blaen bod hon yn frwydr nad oes arni ei hangen.”