Mae pedwar dyn wedi cael eu dedfrydu i garchar gan Lys y Goron yr Wyddgrug am ladd deliwr cyffuriau mewn ymosodiad giang yn nhref Y Rhyl.

Cafodd Mark Mason, 48 oed, sy’n wreiddiol o’r Rhyl, ei drywanu 22 o weithiau ym maes parico Home Bargains yn y dref fis Hydref y llynedd.

Cafodd James Davies, 20 oed, ddedfryd oes am lofruddiaeth y mis diwethaf, a chafodd Anthony Baines, 30 oed, a Mark Ennis, 30 oed, ei ddedfrydu heddiw am ddynladdiad.

Roedd Jake Melia, 21 oed, eisoes wedi cyfaddef llofruddio.

Clywodd y llys mai dial oedd y prif gymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad, a’i fod yn ganlyniad i ryfel twrff rhwng dau gang gelyniaethus a oedd yn brwydro dros reolaeth o’r fasnach gyffuriau yn y Rhyl.

Dywedodd y barnwr fod Mark Mason yn “dad ac yn fab cariadus a hoffus” ac fe ddisgirfiodd yr ymosodiad arno fel un “sydyn, bwystfilaidd a dychrynllyd”.