Bydd cefnogwyr pêl-droed Juventus a Real Madrid sy’n ymweld â Chaerdydd dros y penwythnos ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael y cyfle i ddysgu ymadroddion pêl-droed Cymraeg megis “Mae Bale ar y bêl!” a “Mae Buffon ar dân!”

Mewn sesiynau sy’n cael eu cynnal yng nghanolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell, bydd yr actor Guto Wynne Davies yn rhoi gwersi Cymraeg am ddim ar y stryd i gefnogwyr Real Madrid a Juventus.

Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, mae pêl-droed Ewrop wedi chwarae rhan “allweddol” yn hyrwyddo Cymru a’i dwy iaith genedlaethol ar “lwyfan Ewropeaidd”.

“Gan fod Caerdydd nawr yn rhoi croeso i gêm mor fawr gobeithiwn y gall ein ffrindiau o Sbaen, yr Eidal a mannau eraill weld pa mor falch ydym o’r iaith Gymraeg a chymryd y cyfle hwn i ddysgu sut mae siarad am bêl-droed yn y Gymraeg.”

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal bob awr rhwng 10 y bore a 4 y pnawn y tu allan i’r Hen Lyfrgell ar yr Ais, gyda phob gwers ar ffurf perfformiad yn para tuag ugain munud.