Sophie Taylor
Mae dynes a’i chyn-gariad, wnaeth achosi marwolaeth dynes trwy yrru ar ei hôl ar hyd strydoedd Caerdydd, wedi cael eu carcharu.
Bu farw Sophie Taylor, 22, pan wnaeth ei BMW fwrw bloc o fflatiau yn Waunadda, ym mis Awst 2016.
Plediodd Melissa Pesticcio, 24, o Lanrhymni, a Michael Wheeler, 23, o Dremorfa yn euog i gyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Roedd Michael Wheeler wedi bod mewn perthynas gyda’r ddwy ddynes a chlywodd y llys bod drwgdeimlad rhwng y merched.
Wedi i Sophie Taylor alw heibio tŷ teulu Michael Wheeler i geisio talu arian yr oedd wedi benthyg ganddo, penderfynodd y cwpwl eu bod am ddial trwy yrru ar ei hôl.
Achosi anaf difrifol
Gwnaeth Melissa Pesticcio a Michael Wheeler hefyd bledio’n euog i achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, i Joshua Deguara a oedd yn y car gyda Sophie Taylor.
Torrodd Joshua Deguara bedair asen a choes yn ystod y gwrthdrawiad.