(Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae angen dros 400 yn rhagor o deuluoedd maeth yng Nghymru dros y flwyddyn sydd i ddod er mwyn sicrhau bod plant yn canfod cartref maeth addas, yn ôl elusen.
Yn ôl ffigurau newydd elusen Y Rhwydwaith Maethu mae angen 7,180 o deuluoedd maeth newydd drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, gydag o leiaf 440 o’r rheiny yng Nghymru.
Mae’r elusen wedi darganfod bod yna “angen neilltuol” am ofalwyr ar gyfer pobol yn eu harddegau gyda 97% o wasanaethu maeth amgen yn dweud bod y nifer presennol yn annigonol.
Yng Nghymru mae’n debyg bod dros hanner y plant sy’n derbyn gofal gan wasanaethau maeth yn bobol ifanc yn eu harddegau.
“Canfod y cartref cywir”
“Golyga mwy o ofalwyr maeth y gall gwasanaethau maethu baru anghenion pob plentyn yn nes at y sgiliau sydd gan bob un gofalwr maeth, gan ganiatáu iddynt ganfod y cartref cywir i bob plentyn, y tro cyntaf,” dywedodd Cyfarwyddwr Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, Colin Turner.
“Dyna pam, Bythefnos Gofal Maeth hwn, ein bod yn galw ledled Cymru am i bobl gynnig eu hunain i faethu, yn neilltuol os oes ganddynt y sgiliau a’r profiad i faethu pobol ifanc yn eu harddegau neu grwpiau brodyr a chwiorydd.”