George North, yn ei wisg goch (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi enwau’r rheiny fydd yn cael eu derbyn i’r gwisgoedd glas a gwyrdd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.
Yn eu plith y mae’r cerddor a’r bardd, Geraint Jarman, ynghyd ag asgellwr tim rygbi Cymru a Northampton, George North
Mae cydnabyddiaeth yr Orsedd hefyd i ddau o aelodau staff Cymdeithas Bel-droed Cymru – Osian Roberts, hyfforddwr cynorthwyol y tim cenedlaethol, ac i’r dyn PR sy’n cael y clod am Gymreigio iaith ac agwedd y Gymdeithas, Ian Gwyn Hughes.
Hefyd ar y rhestr y mae’r ddarlledwraig, Nia Roberts; ynghyd â Rhian Roberts, Bangor, un o sefydlwyr Ysgol Glanaethwy; ac mae gwisg las hefyd i Helena Jones, Aberhonddu, a ymddangosodd ar lwyfan y brifwyl yn Y Fenni y llynedd i adrodd, a hithau ar drothwy ei phen-blwydd yn 100 oed.
Rhestr lawn y Wisg Las
Yn wreiddiol o Swydd Stafford, daeth Bob Daimond, Porthaethwy, i weithio i Gyngor Sir Gwynedd ar ddechrau’r 80au, lle dysgodd Gymraeg, a daeth yn Gyfarwyddwr Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd. Ers ei ymddeoliad, bu’n weithgar iawn gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai, sy’n gyfrifol am Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy.
Urddir Richard Crowe, Caerdydd, am ei arbenigedd ym myd y gyfraith i’r broses o greu deddfwriaeth i’r Gymraeg yng nghyd-destun datganoli, ynghyd â’i feistrolaeth o’r Gymraeg. Yn wreiddiol o Sir Dorset, dysgodd y Gymraeg ar ei liwt ei hun cyn mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth.
Er bod ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Sir Benfro, De Affrica yw cartref Tony Davies ers blynyddoedd bellach. Bu’n Llywydd y ‘Welsh Cambrian Society’ ac mae’n Gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg yn Ne Affrica ers deng mlynedd ar hugain. Ef yw Cadeirydd Côr Cymry De Affrica ers ugain mlynedd, ac mae ganddo gysylltiadau lu gyda chymdeithasau Cymraeg ar draws y byd.
Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw.
Mae David Ellis, Y Dref Wen, Sir Amwythig, yn rhan allweddol o fywyd Cymraeg yr ardal. Ef yw Llywydd Clwb Cymraeg Croesoswallt, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod ar bwyllgorau Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gan weithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2016.
Mae Phyllis Ellis, Penisarwaun, yn un o arweinwyr ei chymuned leol yn ardal Caernarfon. Mae’n Gynghorydd Cymuned, llywodraethwr ysgol, Cadeirydd Pwyllgor y neuadd gymuned a Chadeirydd Pwyllgor Eisteddfod y pentref. Yn gyn-bennaeth ysgol, bu’n Gadeirydd mudiad Cefn ac mae’n Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd yn Nant Gwrtheyrn.
Mae Gwynfryn Evans, Rhydypennau, yn arweinydd cymdeithasol ac yn uchel ei barch ym mhob cylch, gan fod yn hynod weithgar yn ei gymuned a’i gapel. Bu’n gweithio yn y sector llaeth drwy gydol ei yrfa, gan gychwyn yn Llangefni a Maldwyn cyn dod yn rheolwr Ffatri Laeth Felin-fach ac yna’n rheolwr De Cymru a Chanolbarth Lloegr i’r Bwrdd Marchnata Llaeth.
Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd. Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw’r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws).
Bu Elwyn Hughes, Llanfairpwllgwyngyll, yn arwain maes dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru am dros 30 mlynedd. Datblygodd y gwasanaeth i godi safonau ac ysbrydoli tiwtoriaid a dysgwyr gan arwain drwy esiampl. Derbyniodd Dlws Elvet a Mair Elvet Thomas am ei gyfraniad i’r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.
Pysgota yw prif ddiddordeb Hugh Price Hughes, Bethel, Caernarfon, ac mae’n ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni ers blynyddoedd. Yn ogystal, mae’n un o’r prif ymgyrchwyr dros gadwraeth a gwarchod y torgoch, pysgodyn prin sy’n byw yn rhai o lynnoedd Eryri.
Bydd rhai pobl yn adnabod Huw John Hughes, Porthaethwy, fel gweinidog rhan amser, eraill yn ymwybodol o’i waith fel darlithydd addysg, ac eraill yn cysylltu’i enw gydag atyniad Pili Palas ar gyrion Porthaethwy. Bu hefyd yn ddyfarnwr pêl droed gan godi i wasanaethu yng nghynghrair Cenedlaethol Cymru.
Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd. Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.
Mae’n debyg bod gan bob bro a chymuned ei harweinyddion, ac mae Arwel Lloyd Jones, Llanuwchllyn, yn bendant yn un o’r rhain yn lleol. Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar iawn o’i gymuned, yn drefnydd greddfol ac wedi treulio degawdau’n gwasanaethu a chynorthwyo unigolion ar adegau o angen, yn ogystal â chynnig cymorth i nifer o sefydliadau a chymdeithasau’r plwyf.
Mae Geraint a Meinir Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig eu bro a thu hwnt dros y blynyddoedd. Gyda’r ddau yn gweithio ym myd addysg, cafodd cenedlaethau o blant eu hysbrydoli gan eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant, gyda Meinir yn hyfforddi disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd i ganu fel unigolion, mewn partïon a chorau mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd. Mae Geraint yn aelod blaenllaw o nifer o gymdeithasau diwylliannol, ac yn amlwg ei gefnogaeth i gorau lleol, gan gynnwys Côr Meibion Dwyfor.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio un o sêr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd, Helena Jones, Aberhonddu, a oedd fisoedd yn unig yn fyr o’i phen blwydd yn gant oed, pan fu’n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn.
Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau. Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw.
Mae Lisa Lewis Jones, Brynaman, wedi bod yn weithgar yn lleol ar hyd y blynyddoedd. Bu’n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ddrama’r Gwter Fawr, cymdeithas sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddol drwy gystadlu yn y cystadlaethau actio drama. Mae wedi bod yn diddanu cymdeithasau lleol drwy gyflwyniadau, adrodd ac actio.
Bu Mari Jones, Llanfaethlu, yn fawr ei chymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, gan weithio’n wirfoddol i’r ŵyl am chwarter canrif, gyda’i chwaer, Dwynwen Hawkins. Byddai’r ddwy i’w gweld yn gwerthu tocynnau yn y Swyddfa wrth y brif fynedfa, ac yn wynebau cyfarwydd i filoedd o eisteddfodwyr.
Mae Mary Jones, Trefor, yn derbyn yr anrhydedd oherwydd ei gwaith yn trefnu Eisteddfod Aelhaearn dros y blynyddoedd, gan gadw’r Eisteddfod yn hyfyw a llwyddiannus. Mae eisoes wedi’i anrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad.
Un sydd wedi gweithio’n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol yw Michael Jones, Caerdydd, gan ymgyrchu’n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.
Mae Siân Merlys, Pontiets, Llanelli, wedi cyfrannu llawer iawn i fyd Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd, gan drefnu a hyrwyddo cyrsiau dysgu Cymraeg yn ardal Sir Gâr. Mae’n aelod o Banel Canolog Dysgwyr yr Eisteddfod, a bu’n Gadeirydd am nifer o flynyddoedd, gan arwain y gwaith a’r agenda dysgu Cymraeg o fewn yr Eisteddfod yn ddyheuig.
Yn un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern, efallai bod June Moseley, New Plymouth, Seland Newydd, wedi symud yn bell erbyn hyn, ond mae Cymru a’r Gymraeg yn parhau’n rhan bwysig o’i bywyd. Yn wreiddiol o ardal Mostyn, Sir y Fflint, mae’n gweithio’n ddyfal i sicrhau bod Cymry yn ei rhanbarth yn dod i adnabod ei gilydd, a drws ei chartref, ‘Plas Mawr’, bob amser ar agor i groesawu ymwelwyr o Gymru.
O Fôn y daw Phil Mostert, Harlech, yn wreiddiol, yn Nyffryn Ardudwy mae’i gartref ers blynyddoedd, a’r gymdeithas yno sydd wedi elwa o’i gyfraniad sylweddol mewn nifer o feysydd. Yn gyn Uwch-ymgynghorydd Addysg ac Arolygydd Ysgolion, roedd yn un o sefydlwyr y papur bro ‘Llais Ardudwy’, ac mae’n un o’r golygyddion ers bron i ddeugain mlynedd ac ef hefyd sy’n cysodi’r papur.
Dyn ei filltir sgwâr yw Alun Mummery, Llanfairpwllgwyngyll, a’i gyfraniad i’r filltir honno’n sylweddol dros y blynyddoedd. Yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanfairpwll ers hanner canrif eleni, bu hefyd yn gynghorydd sir dros ei ardal leol yn Llanfairpwll, Porthaethwy, Star a Phenmynydd, ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol.
Efallai iddo gael ei eni yn King’s Lynn, ond magwyd George North, Northampton, yng ngogledd Môn gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bodedern, dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni. Mae’n un o chwaraewyr rygbi mwyaf disglair ei genhedlaeth, gan gychwyn ar ei daith i garfan y Llewod yng Nghlwb Rygbi Llangefni, cyn symud i Goleg Llanymddyfri ac yna’r Scarlets, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan yn ddim ond deunaw oed.
Efallai mai fel cyn-bostfeistres Tegryn, Crymych a HendyGwyn-ar-Daf mae Jean Parri-Roberts, HendyGwyn-ar-Daf, yn fwyaf adnabyddus, gan iddi hi roi 55 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned leol yn gosod ei stamp drwy’i chyfraniad diymhongar gan drin pawb â pharch a gofal. Ond, mae’i chyfraniad i’r iaith, diwylliant a’i milltir sgwâr yn llawer ehangach na hyn.
Un o feibion Môn yw Donald Glyn Pritchard, Llannerch-y-medd, a’i gyfraniad i fywyd yr ynys yn sylweddol. Yn athro a phennaeth cynradd cyn ei ymddeoliad, bu’n weithgar gyda’r Urdd am flynyddoedd, yn gyfrifol am amryw o ganghennau. Treuliodd gyfnod hirfaith – o 1965 tan 2003 – yn weithgar gyda Chlwb Ieuenctid ac Aelwyd y Gaerwen, gan ddylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc Môn.
Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod.
Mae Gwerfyl Roberts, Y Groeslon, Caernarfon, wedi gweithio’n ddiflino i wella ansawdd darpariaeth y gwasanaeth iechyd yn y cyd-destun dwyieithog ers blynyddoedd. Mae ganddi gyhoeddiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar bynciau amrywiol, gan osod y sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.
Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts. Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru.
Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl-droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru.
Bu David a Ruth Roberts, Llanelen, Y Fenni, yn gwbl allweddol i lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd. Roedd y ddau’n gyd-gadeiryddion Pwyllgor Apêl y Fenni, gan weithio’n ddi-ffael am gyfnod o ddwy flynedd i godi arian at yr Eisteddfod.
Efallai mai ardal Winnipeg, Manitoba, Canada yw cyfeiriad Carol Sharp ers dros ddeugain blynedd bellach, un o ferched Môn ydyw mewn gwirionedd, ac mae dylanwad yr ynys a Chymru’n gryf arni hyd heddiw. Cafodd yrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith yng Nghanada, yn Farnwr a fu’n flaenllaw ei gwaith yn cynrychioli hawliau lleiafrifoedd ac ieithyddol, gan arbenigo mewn cyfraith sifil.
Mae Caerfyrddin yn ddyledus iawn i Wyn Thomas, am ei ymroddiad i’r Gymraeg a byd busnes yn y dref dros y blynyddoedd. Mentrodd yn ifanc drwy agor Siop y Pentan, siop a ddaeth yn Ganolfan Gymraeg i’r dref, gan werthu llyfrau, recordiau, cardiau, posteri, tocynnau – popeth a oedd yn ymwneud gyda’r iaith yn lleol a chenedlaethol.
Er ei fod yn byw yn Seland Newydd ers 32 o flynyddoedd, mae’n amlwg fod Derek Williams, Auckland, yn Gymro i’r carn. Bu’n hyrwyddo Cymru a’i diwylliant yng nghymuned Auckland ers blynyddoedd lawer, ac mae’i gyfraniad i lu o gymdeithasau, gan gynnwys Clwb Cymraeg Auckland, Cymdeithas Gymraeg Auckland a Chymdeithas Dawnsio Gwerin Cymreig Auckland, yn enfawr.
Mae cyfraniad Ifor Williams, Llanfaglan, Caernarfon, i’w filltir sgwâr yn arbennig ar nifer o lefelau. Yn uchel ei barch fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bontnewydd, ef hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Bro Llanwnda, sy’n parhau’n ganolfan fyrlymus a diwylliannol bwysig yn yr ardal. Mae’n rhan allweddol o’r prosiect cenedlaethol digidol, Llên Natur ac yn un o sefydlwyr, aelod gweithgar a thrysorydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, dangosodd Irfon Williams, Bangor, ymroddiad ac angerdd yn ei waith, gan dderbyn Gwobr Nyrs Plant y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012. Yn 2014 cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr, a chan weld effaith cemotherapi ar rai merched, aeth ati i sefydlu elusen ‘Tîm Irfon’ i godi arian i Apêl Awyr Las er mwyn talu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a’u teuluoedd.
Mae Robyn Williams, Y Fali, wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cymunedol ei dref enedigol, Caergybi. Yn bartner mewn cwmni o gyfreithwyr sydd â swyddfa yn y dref, ef yw cyfreithiwr mygedol yr Eisteddfod eleni, ac wedi gwneud llawer ym myd y gyfraith i gefnogi a chynorthwyo mudiadau a sefydliadau lleol.
Y Wisg Werdd
Gellid dadlau bod enw Linda Brown, Gerlan, Bethesda, yn gyfystyr â byd y ddrama yng Nghymru gan iddi fod yn ganolog i fyd y theatr Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd. Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws o’r cychwyn, mae wedi llwyddo i greu perthynas cwbl unigryw gyda chymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan ddenu llu o bobl i brofi theatr Gymraeg ar lawr gwlad.
Mae cyfraniad Elonwy Davies, Llanybydder, i ddiwylliant a Chymreictod ei hardal yn amhrisiadwy. Mae’n gweithio’n ddygn gyda CFFI a’r Urdd yn lleol a sirol, a phob amser yn fwy na pharod i gyfeilio a hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau lu, gan gredu bod trosglwyddo’i doniau cerddorol i’r genhedlaeth nesaf yn bwysig tu hwnt.
O Gasnewydd y daw Pamela Davies, Acton, Wrecsam, yn wreiddiol, ond mae’n byw yn y gogledd ddwyrain ers pan oedd yn blentyn. Yn gantores arbennig, enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 a 1970, ynghyd ag ennill amryw o gystadlaethau canu eraill. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes a dirprwy bennaeth cynradd, aeth ati i ddysgu Cymraeg, a mynychu cyrsiau ysgrifennu creadigol.
Yn wreiddiol o Ddeiniolen, mae Siân Wyn Gibson, Llanwnda, Caernarfon, yn adnabyddus i gynulleidfa’r Eisteddfod fel cantores yn ogystal â hyfforddwr rhai o’n cantorion ifanc mwyaf disglair. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn canu’n broffesiynol gyda nifer o gwmnïau, dychwelodd Siân i ogledd Cymru lle mae’n canolbwyntio ar waith oratorio, cyngherddau a chynnig gwersi canu yn ei chartref ac i blant yn ardal Conwy drwy’i gwaith.
Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro. Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera. Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru.
Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016.
Un sydd wedi cyfrannu’n werthfawr i’n diwylliant cerddorol ers blynyddoedd, ac yn arbennig i’r byd cerdd dant, yw Glesni Jones, Llandwrog, Caernarfon. Bu’n arwain Parti Lleu, yn hyfforddi, gosod a threfnu cerddoriaeth i’r parti am dros ugain mlynedd gan ennill llu o wobrau. Datblygodd Parti Lleu yn Gôr Arianrhod, a bu’r côr yn cefnogi’r Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd dan ei harweinyddiaeth.
Dau efaill yw Emyr Wyn Jones, Gwalchmai, a Trefor Wyn Jones, Pentre Berw, sydd yn adnabyddus am eu gwasanaeth i gerddoriaeth ym Môn am flynyddoedd. Maent wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn cannoedd o gyngherddau a chymanfaoedd canu, ac wedi bod yn aelodau o nifer o gorau, gan gynnwys Cantorion Colin Jones, dros y blynyddoedd.
Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig. Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru.
Rhoddodd Rhodri Jones, Penarth, oes o wasanaeth i addysg Cymraeg ail iaith yn ne ddwyrain Cymru, gan dreulio ugain mlynedd fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Fechgyn y Barri, fel athro ymgynghorol gyda chyfrifoldeb am ail iaith yn ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro ac fel Arolygwr gydag Estyn. Ond mae’i gyfraniad yn llawer ehangach na hyn, gyda’i ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, yn arbennig dawnsio gwerin.
Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn. Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.
O Rosygwaliau ger Y Bala’n wreiddiol, mae Elen Wyn Keen, Llangristiolus, yn byw ym Môn ers blynyddoedd bellach ac yn cyfrannu i fywyd cerddorol yr ynys. Mae’n delynores a phianydd fedrus, sy’n rhoi o’i hamser i nifer o eisteddfodau, cyngherddau, sefydliadau ac ysgolion yn lleol ac yn ehangach. Hi yw cyfeilydd swyddogol Ysgol Glanaethwy ers 1997, ac mae wedi cyfeilio’n genedlaethol i’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.
Mae Jeanette Massocchi, Y Fenni, yn rhan o fyd cerddorol Cymru ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n sylweddol i’r maes, fel cyfeilydd, beirniad a hyfforddwraig. Bu’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd tan 2004, ond gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni’r llynedd, penderfynodd ail-gydio yn ei gwaith a chyfeilio a hyfforddi Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chyfeilio’n ystod yr wythnos ei hun.
Fel ‘Derec Teiars’ mae pawb yn adnabod Derec Owen, Llanfairpwllgwyngyll, gan iddo weithio fel rheolwr siop deiars yn Llangefni am flynyddoedd. Yn 1982, sefydlodd Gymdeithas Hogia Paradwys, sy’n codi arian i elusennau ym Môn a Gwynedd, gan weithredu fel Ysgrifennydd, Cadeirydd a Llywydd, a chan godi degau o filoedd o bunnau. Bu’n cyflwyno rhaglenni i Radio Ysbyty Gwynedd am bron i 30 mlynedd, ac yn tynnu lluniau i bapurau bro Ynys Môn ers canol y 1970au.
Actores, awdures ac addysgwraig yw Mari Rhian Owen, Aberystwyth, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym myd y theatr broffesiynol. Mae ganddi arbenigedd ym maes theatr ysgolion a theatr gymunedol, ac yn gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch fel Actores Rheoli, sy’n arwain gweithdai drwy ddrama. Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon.
I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw. Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’.
Y byd gwerin sy’n mynd â bryd Huw Roberts, Llangefni, ac mae’i gyfraniad i’r maes, yn gerddorol ac ym maes ymchwil, yn sylweddol ers degawdau. Yn aelod o’r grŵp Cilmeri ac yna 4 yn y Bar, mae Huw yn ffidlwr o fri sydd wedi’i drwytho mewn alawon a hanes cerddoriaeth gwerin yng Nghymru ac wedi ysbrydoli llawer o ieuenctid trwy hyfforddi ar gyrsiau ffidil dros y blynyddoedd.
Mae Rhian Roberts, Bangor, wedi addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ers blynyddoedd yn sgil ei gweledigaeth hi a’i gŵr, Cefin Roberts, wrth sefydlu Ysgol Glanaethwy dros chwarter canrif yn ôl. Fel cyfarwyddwr cerdd côr iau’r ysgol, mae Rhian wedi creu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer llu o bobl ifanc, gan eu harwain i fuddugoliaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rhoi cyfle i’r criw ifanc deithio’r byd yn perfformio.
Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol.
Enw sy’n adnabyddus tu hwnt i unrhyw un sy’n dilyn y byd cerdd dant ac alawon gwerin yng Nghymru yw Anwen Williams, Dinbych. Dyma wraig sydd wedi gwneud cyfraniad oes i wasanaethu ei hardal ei hiaith a’i chenedl. Yn feirniad cenedlaethol, gwirfoddolwr gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a’r Eisteddfod Genedlaethol pan yn lleol, mae nifer fawr o bobol wedi elwa o’i hymroddiad di-flino’n hyfforddi llu o unigolion a phartïon canu a cherdd dant.
Cefndir y gwisgoedd
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo i’r Wisg Wen.