Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cadarnhau na fydd y Parth Atal Ffliw Adar yn cael ei ailgyflwyno ar ôl i gyfnod y Parth presennol ddod i ben ar Ebrill 30.
Mae wedi penderfynu y bydd cyfnod y Parth Atal yn dod i ben yn sgil cyngor arbenigol oddi wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Fodd bynnag, bydd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhai rhywogaethau o adar yn parhau tra bo tystiolaeth ychwanegol yn cael ei hystyried.
“Fis Rhagfyr diwethaf, gwnes i ddatgan bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar mewn ymateb i adroddiadau am achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) (H5N8) ar draws Ewrop, Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol.
“Rydym wedi bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi bod yn paratoi ac yn diweddaru asesiadau risg er mwyn pwyso a mesur y risg o ran achosion o’r clefyd.
“Wrth gynnal yr asesiad risg milfeddygol diweddaraf, daeth i’r casgliad bod y risg y gallai adar dŵr gwyllt sy’n byw yma fod wedi’u heintio â H5N8 o hyd yn Isel i Ganolig a bod y risg y byddai ffermydd dofednod yn dod i gysylltiad â’r clefyd yn Isel, ond yn uwch ac y bydd yn dibynnu ar y mesurau bioddiogelwch ar bob fferm.
“Mae’r lefel risg, felly, yr un peth ag ym mis Tachwedd 2016.”