Sampl o drwydded yrru gyda baner yr Undeb Ewropeaidd a Jac yr Undeb (DVLA)
Fe allai’r Ddraig Goch gael lle ar drwyddedau gyrru plastig, os bydd cais gan ddau aelod seneddol Ceidwadol yn llwyddo.

Ddydd Mercher, fe fydd dadl fer yn y Senedd yn San Steffan i alw am roi baneri ‘rhanbarthol’ yn lle baner yr Undeb Ewropeaidd ar y trwyddedau.

Fe allai hynny olygu rhoi’r Ddraig Goch ar drwyddedau yng Nghymru, ochr yn ochr â Jac yr Undeb sy’n rhan gorfodol o bob trwydded newydd.

Galwad o Gernyw

Dau AS Ceidwadol o Gernyw, Scott Mann a Derek Thomas, sy’n galw am y newid wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Andrew Jones, eisoes wedi gwneud yn glir y bydd rhaid cael gwared ar faner yr Undeb Ewropeaidd a chael rhywbeth yn ei lle.

Mae Derek Thomas a Scott Mann yn galw am yr hawl i ddangos baner Cernyw, neu faneri eraill fel y Ddraig Goch a Chroes Sant Andreas yn yr Alban.

Protestio

Roedd yna brotestio yng Nghymru pan gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y byddai Jac yr Undeb yn orfodol ar bob trwydded o ganol 2015 ymlaen – ymgais, medden nhw, i ddod â ‘chenedl Prydain’ ynghyd.

Fe fu’r AS Hywel Williams yn gwrthwynebu ac fe gyhoeddodd Gwasg y Lolfa sticeri Draig Goch i’w rhoi tros y faner Brydeinig.

Fyddai cynllun y ddau AS Ceidwadol ddim yn cael gwared ar Jac yr Undeb