”Keith
”]Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Arweinydd Cyngor Caerffili sydd wedi marw heddiw ar ôl gwasanaethu am bron i bedwar degawd dros gymuned Aberbargoed.

Treuliodd Keith Reynolds 38 mlynedd fel cynghorydd i Aberbargoed cyn dod yn Arweinydd y Cyngor yn 2014.

Cyn hynny, arferai weithio fel gof mewn pyllau glo Bargoed a Phenallta. Treuliodd ddeunaw mlynedd wedyn yn gweithio fel Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon.

Roedd Keith Reynolds eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n ymddeol ym mis Mai.

“Dylanwad mawr”

Mewn teyrnged iddo dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:  “Roedd Keith yn was cyhoeddus ymroddedig wnaeth weithio’n ddiflino dros bobol Aberbargod.

“Bydd ei farwolaeth yn cael ei deimlo’n ddwys nid yn unig ymhlith ei deulu a’i ffrindiau, ond hefyd cymunedau ar draws Caerffili lle cafodd ddylanwad mawr fel cynghorydd, ymgyrchydd lleol ac arweinydd dinesig.”

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, David Poole: “roedd Keith yn was cyhoeddus rhagorol ac roedd ganddo egni a phenderfyniad di-ildio i wneud ei orau dros ei gymuned leol a’r fwrdeistref sirol.”

“Roedd yn gydweithiwr ac yn ffrind arbennig,” ychwanegodd gan gydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau.