Mae dros filiwn o oedolion yng Nghymru sydd ddim yn ymarfer corff, yn ôl adroddiad.
Yn ôl adroddiad Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) mae miliwn yng Nghymru – 20 miliwn dros y Deyrnas Unedig – yn methu a cyrraedd targedau’r Llywodraeth ar isafswm ymarfer corff.
Mae menywod yng Nghymru yn 40% fwy tebygol o beidio ymarfer corff o gymharu â dynion gyda 600,000 o fenywod yn methu a cyrraedd y targedau.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod canran sylweddol o bobol sydd yn cael problemau â’r galon ddim yn ymarfer corff yn ddigon aml.
O’r holl bobol yng Nghymru sydd yn cael trawiad neu lawfeddygaeth ar y galon, mae 81% yn methu â chyrraedd targedau’r Llywodraeth cyn y digwyddiad.
“Perygl o farwolaeth gynnar”
“Mae lefelau ymarfer corff yn y Deyrnas Unedig yn isel o hyd, ac mae’r risg yma yn bygwth iechyd cardiofasgwlar a’n cynyddu’r perygl o farwolaeth gynnar,” meddai Cyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol y BHF, Mike Knapton.
“Mae gwneud ymarfer corff yn haws a’n fwy agored i bawb yn bwysig os ydym am geisio lleddfu baich afiechydon sydd yn gysylltiedig â diffyg ymarfer corff.”
Daw’r ystadegau wrth i’r BHF lansio’u her ‘My Marathon’ sydd yn annog pobol i redeg 26.2 milltir yn eu hamser eu hunain dros gyfnod o fis.