Y bom llaw (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae criw difa bomiau wedi cael eu galw i ymdrin â ffrwydryn sydd wedi ei ddarganfod ger prif ffordd wrth ymyl Wrecsam.
Cafodd bom llaw ei ddarganfod prynhawn dydd Llun ger cyffordd 7 ar ffordd yr A483 ger Yr Orsedd Goch.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’n debyg bod yr A483 yn parhau i fod ar agor i draffig o’r ddau gyfeiriad.
Gwnaeth swyddog o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, drydar llun o’r bom gyda’r neges: “yn cadw’r heolydd yn ddiogel heddiw…rhag bomiau llaw!”