Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cael ei feirniadu (Llun: Senedd TV)
“Ffars ar raddfa Shakespeareaidd” yw’r uwchgynhadledd cyfansoddiadol a gafodd ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Daw’r uwchgynhadledd ar ôl i Carwyn Jones rybuddio am “ryfel masnachol” rhwng pedair gwlad Prydain oni bai bod rheolau newydd yn cael eu cyflwyno ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Carwyn Jones yn awyddus i sicrhau bod gwledydd Prydain yn aros gyda’i gilydd ar ôl Brexit.
Ond yn ôl Andrew RT Davies, mae gan y Blaid Lafur “Brif Weinidog sydd wedi methu, Prif Weinidog Cymru sydd yn methu a chriw o bobol ddi-ddim”.
Dywedodd fod y ffaith fod y Blaid Lafur yn “dod ynghyd i fynd i’r afael â materion cyfansoddiadol cymhleth iawn pan na allan nhw ddatrys materion sy’n parhau o fewn eu plaid eu hunain yn ffars ar raddfa Shakespeareaidd”.
Mae e wedi cyhuddo Carwyn Jones a chyn-Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown o “dynnu sylw oddi ar eu methiannau eu hunain” gydag “atebion ffug i broblemau ffug”.
Rhyfel masnach
Wrth gyfeirio at bryderon Carwyn Jones am ryfel masnach posib, dywedodd Andrew RT Davies fod y pryderon hynny’n “peri penbleth”.
“Dydy masnach, diwydiant a thrafod rhyngwladol ddim yn faterion sydd wedi cael eu datganoli, ac mae modd eu datrys drwy fframweithiau’r DU – does bosib nad yw e’n ymwybodol o hynny?”
Ychwanegodd y dylai Carwyn Jones a’r Llywodraeth Lafur ganolbwyntio ar “roi hwb i’r economi, codi safonau ysgolion ac achub ein Gwasanaeth Iechyd”.