Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg
Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi dweud ei fod yn poeni y gallai Brexit olygu bod mwy o bobol yn troi yn erbyn y Gymraeg.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd y gallai’r Gymraeg fod yn rhan o’r cynnydd gwrthdaro hiliol sydd wedi bod yng Nghymru ers i bobol bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Dw i’n poeni am Brexit bob dydd, dw i’n credu ei fod yn creu cawlach yn ein gwlad,” meddai Alun Davies am effaith y refferendwm ar yr iaith.
“Ro’n i’n siarad â chriw o bobol pythefnos yn ôl ac roedd y fenyw yn yr ystafell yn dweud bod hi wedi gweld cynnydd yn achosion o fwlio yn yr ysgol, plant du yn cael eu bwlio yn yr ysgol.
“Mae mwy o wrthdaro hiliol mewn ysgolion ac yng ngholegau ac roedd hi’n dweud bod hi’n gweld hyn fel rhyw fath o ymateb i Brexit.
“Brexit wedi dod i ymosod ar y Gymraeg”
“Mae pobol sydd wedi bod yn wrthwynebus i’r Gymraeg, sydd wedi cadw’n dawel dros y blynyddoedd diwethaf – mae Brexit wedi dod nawr iddyn nhw ymosod ar y Gymraeg, mewn ffordd buasen nhw ddim wedi gwneud, efallai blwyddyn, dwy flynedd yn ôl.
“Felly dw i’n gweld y cyfnod presennol fel cyfnod bregus iawn yn ein cymdeithas ni a dw i’n credu bod eisiau pob un ohonom ni i feddwl am yr hyn sy’n digwydd i gymunedau a’r gymdeithas yng Nghymru.
“Dw i’n meddwl y gwelwn fwy o wrthdaro oherwydd Brexit a dw i’n gweld efallai y bydd y Gymraeg yn rhan o hyn.”
Dogfen Plaid Cymru – “ddim yn anodd”
Wrth ymateb i ddogfen Plaid Cymru ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd ei bod “ddim yn anodd” creu dogfen o’r fath o gymharu ag ysgrifennu strategaeth ar gyfer y 30 mlynedd nesaf.
“Dw i’n croesawu cyfraniadau at y drafodaeth, dw i’n falch bod Plaid Cymru yn cyfrannu at hyn,” meddai.
“Rydan ni’n ysgrifennu strategaeth i’r Llywodraeth, dim rhyw ddogfen ymgyrchu, gall unrhyw un ysgrifennu hynny dros nos. Dyw e ddim yn anodd gwneud, gallwch chi wneud e dros y penwythnos.
“Ond rydyn ni’n gwneud rhywbeth gwahanol iawn, rydyn ni’n gwneud strategaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar gyfer y 30 mlynedd nesaf a dw i’n credu bod hynny’n tipyn bach yn fwy o beth.”
Mynnodd nad oes oedi yn y broses o greu strategaeth ar gyfer nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.