Kirsty Williams yng nghynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
Ar drothwy’r etholiadau lleol, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cynnal ei chynhadledd genedlaethol yn Abertawe’r penwythnos hwn gydag addewid am “adfywiad” y blaid yng Nghymru.
Yn ôl Cadan ap Tomos, ymgeisydd y blaid yng Nghaerdydd, mae pobol yn dechrau troi yn ôl at y Democratiaid Rhyddfrydol ac mae cyfle i ail-gipio’r hen gadarnleoedd.
“Fi’n credu bod lot o gyfleoedd mas ’na, mae pobol yn gwrando arnom ni eto, mae pobol yn dod nôl atom ni,” meddai wrth golwg360.
“Ma’n haelodaeth ni dros y Deyrnas Unedig wedi dyblu ers 2012 felly mae lot fwy o bobol y tu cefn i’n hymgyrch ni, i sbarduno ni ymlaen.”
Yn 2013, roedd nifer yr aelodau sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ledled Prydain yn tua 43,400, erbyn 2017, mae dros 84,000.
Mae tua 3,000 o aelodau gan y blaid yng Nghymru ond does dim ffigurau manwl, annibynnol.
Yn ôl Cadan ap Tomos, mae etholiadau’r cynghorau sir ar 4 Mai yn gyfle i wneud enillion yng Nghaerdydd, Abertawe, Ceredigion, ym Mhowys – hen gadarnleoedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Mae’n dweud hefyd fod cyfle i gipio tir newydd yn lleoedd fel Sir Gaerfyrddin.
“Mae lot o bethau yn digwydd ar lawr gwlad, mae e’n rhywbeth eitha’ exciting,” ychwanegodd.
“Rydym yn brwydro nôl”
Gydag unig Aelod Cynulliad y blaid yn Ysgrifennydd Addysg o fewn Llywodraeth Cymru, addysg oedd yn cael y prif sylw gan y Rhyddfrydwyr.
Yn ei araith, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Mark Williams, AS dros Geredigion, bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi bod ar flaen y gad dros hunanlywodraeth i Gymru.
“Byddwn ni byth yn rhoi’r gorau iddi, rydym ni’n brwydro nôl,” meddai.
Ychwanegodd fod yr etholiad yn “gyfle i ddangos mai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yw’r blaid dros werthoedd rhyddfrydol, goddefol ac agored.”
Stori: Mared Ifan