Bydd llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn derbyn canllawiau newydd fydd yn eu hannog i ystyried cefndiroedd troseddwyr wrth ddedfrydu plant a phobol ifanc rhwng 10 ac 17 blwydd oed.

Yn ôl canllawiau’r Cyngor Dedfrydu dylai llysoedd osgoi dedfrydu pobol dan 18 oed yn ddiangen a dylai dedfrydau o gaethiwed gael eu trin fel yr “opsiwn olaf.”

Mae’r ddogfen yn amlinellu ffactorau a ddylai gael eu hystyried wrth i farnwyr benderfynu ar lymder dedfryd gan gynnwys ymddygiad troseddol o fewn y teulu, profiadau trawmatig a phrofiadau o fod yn dyst i gamddefnydd alcohol a chyffuriau.

Mae’r canllawiau hefyd yn annog ystyriaeth o ffactorau eraill wrth ystyried hyd dedfryd, ac am y tro cyntaf bydd ffilmio trosedd â’r bwriad o’i uwch lwytho i wefan cyfryngau cymdeithasol yn cael ei hystyried fel un o’r ffactorau yma.

“Atal aildroseddi”

“Craidd ein canllawiau newydd yw atal aildroseddu ymhlith plant a phobol ifanc. Does neb eisiau i blant sydd yn troseddu i dyfu fyny i fod yn oedolion sy’n troseddu,” meddai Cadeirydd y Cyngor Dedfrydu, yr Arglwydd Ustus Colman Treacy.

“Mae’r canllawiau yn edrych â manylder ar ba fath o ddedfryd fyddai’n atal hyn ar sail oedran, cefndir ac amgylchiadau pob plentyn a pherson ifanc, er mwyn eu helpu i ail integreiddio yn hytrach na’u dieithrio ymhellach.”

Bydd y canllawiau yn dod i rym mewn Llysoedd yng Nghymru a Lloegr ar Fehefin 1, ac oni bai bod y barnwr neu ynad yn teimlo nad ydyn nhw o fudd i’r achos, mi fydd rhaid eu dilyn.