Mae ymgyrchydd yn Llanelwy wedi codi pryderon ynglŷn â’r enw Saesneg sydd ar stad dai newydd yn y ddinas.

Bydd 83 tŷ newydd yn cael eu hadeiladu, wyrcws yn cael ei hadnewyddu a hen ysbyty yn cael ei throi’n fflatiau fel rhan o ddatblygiad ‘Livingstone Place’ fydd ar gyrion Llanelwy.

Yn ôl Austin Savage mae’r enw ‘Livingstone Place’ yn torri canllawiau iaith y cyngor sir lleol, er bod cwmni tai Pure Residential yn honni mai enw “dros dro” sydd yno.

“Hyd y gwelwn i a hyd y gwelir [cangen leol] Merched y Wawr, mae canllawiau’r sir wedi cael eu torri i ryw raddau yn y ffaith nad ydy enwau Saesneg fod i gael eu defnyddio ar leoliad tai,” meddai Austin Savage.

“Yn bendant dydy enwau Saesneg ddim i fod i gael eu defnyddio ar strydoedd. Mae’r datblygwyr yn cael get away trwy ddweud mai enw ar gyfer marchnata yw enw’r safle, i gael pobol i fynd yno. Ond rydyn ni yn dweud bydd yr enw yna yn sticio.”

Dull Marchnata

Mae un o gynghorwyr sir Llanelwy wedi amddiffyn yr enw fel un priodol ar gyfer “marchnata” ac mae’n mynnu nad oes canllawiau wedi cael eu torri.

“Dull i farchnata’r peth yw’r enw,” meddai Dewi Owens. “Mae’r ffyrdd gydag enwau Cymraeg arnyn nhw felly does dim problem o ran y mater yna yn awr.

“Yr unig broblem yw yr oedden nhw wedi mynd i mewn i hwn heb ymgynghori â ni o gwbl. Mae cynllunwyr sir wedi edrych i mewn i’r peth a ni fydd unrhyw adeilad a’r enw Livingstone arno yn y pendraw heblaw am Livingstone Court, cyn belled a dw i’n gwybod.”