Mae barn y cyhoedd yn cael ei hanwybyddu wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i newid deddfwriaeth iaith, yn ol ymgyrchwyr iaith sy’n cyfarfod â’r Gweinidog Alun Davies heddiw (Mawrth 2)
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau ymgynghori i gasglu barn ar sut mae Safonau’r Gymraeg yn gweithio, ond dyw’r cyhoedd ddim yn cael mynd i’r cyfarfodydd.
Yn ol Llywodraeth Cymru, fe fydd y dystiolaeth maen nhw’n ei chasglu yn cael ei defnyddio i lunio papur gwyn ar Fesur y Gymraeg a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai eleni.
“Profiad pobol yn bwysig”
“Mae angen cryfhau’r gyfraith er lles pobl a’r Gymraeg, nid er lles sefydliadau,” meddai Manon Elin, Cadeirydd Grwp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Dylai profiad y rhai sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg fod wrth wraidd popeth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ond mae’n debyg mai dim ond barn cyrff sy’n cyfrif. Sut allan nhw gyfiawnhau cau’r cyhoedd allan o’r sesiynau hyn?
“Mae’r math o dystiolaeth mae’r Llywodraeth yn ei chasglu hefyd yn dangos tuedd,” meddai wedyn. “Mae’n debyg eu bod nhw eisiau atebion i gwestiynau sy’n anodd iawn i’r cyhoedd ymwneud â nhw. Pam nad ydyn nhw’n casglu tystiolaeth mewn ffordd sy’n wirioneddol agored i’r cyhoedd?
“Mae’n eironig bod nifer o wendidau’r Safonau yn ganlyniad i’r un tuedd gan y Llywodraeth, sef gwrando ar farn cyrff a chwmnïau’n yn hytrach na defnyddwyr a chefnogwyr yr iaith.”
Cymdeithas wedi cael “camargraff”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 ei fod yn credu bod Cymdeithas yr Iaith wedi cael “camargraff” o natur y cyfarfodydd.
Eglurodd fod y cyfarfodydd hyn yn rhai “gyda’r cyrff cyhoeddus sydd eisoes yn gweithredu dan y safonau [iaith Gymraeg].”
“Mae croeso i unrhyw un rhannu sylwadau ysgrifenedig gyda ni – neu ar lafar, unrhyw bryd,” ychwanegodd y llefarydd.