Julie James
Mae’r gwaith o adeiladu canolfan forol newydd ym Mhorthcawl gam yn nes wedi i’r fenter sicrhau grant gwerth £2.1 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r holl brosiect werth £5.5 miliwn ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017, gyda’r gobaith am 55 o swyddi ynghyd â diogelu swyddi eraill yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae’r ganolfan forol yn rhan o raglen Cyrchfannau Denu Twristiaid Llywodraeth Cymru, lle bydd 11 safle ar draws Cymru yn elwa o’r cynllun.

‘Atyniad cyffrous’

“Yr arfordir yw pwynt gwerthu unigryw’r sir, a dyma pam y mae mwyafrif yr ymwelwyr yn dod i’r ardal,” meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru.

“Ond i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, mae angen inni ddarparu mwy o gyfleusterau a gwasanaethau arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr.

“Bydd Canolfan Forol Porthcawl yn cyflawni’r nod hwn drwy ddarparu atyniad cyffrous ac arloesol i deuluoedd drwy’r flwyddyn ar lan y môr,” ychwanegodd.

‘Arwain gan y gymuned’

Mae Cadeirydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud, “dyma ddangos hyder mawr yn ein tîm ac yng nghymuned Porthcawl.

“Rydym yn credu mai hwn yw’r prosiect twristiaeth fwyaf yn y Deyrnas Unedig o bosib i gael ei arwain gan y gymuned, ac rydym bellach yn gallu cynnig tendr ar gyfer yr adeiladu a dechrau ar y prosiect,” ychwanegodd y cadeirydd Mike Clarke.