Logo Cwmni Dwr Dyffryn Dyfrdwy
Fe ddaeth y cyhoeddiad fod cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy bellach wedi ei lyncu gan gwmni Dŵr Hafren Trent – er gwaetha ymgyrch hir gan bobol leol i’w achub.

Yn awr, mae gwleidydd lleol wedi galw ar y perchnogion newydd i gadw at eu haddewidion i ddiogelu swyddi ac i gadw presenoldeb yng Nghymru.

Ac mae Llŷr Gruffydd hefyd wedi galw am barhau’r ddadl am ddyfodol dŵr a hawl cwmnïau Cymreig i elwa arno.

Y cefndir

Roedd Hafren Trent, un o gwmnïau dŵr mwyaf Prydain a pherchennog rhai argaeau yng Nghymru, wneud cynnig o £78.5 miliwn i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ym mis Tachwedd gan guro cynnig cwmni Ancala Fornia.

Fe gafodd cais y cwmni Seisnig ei herio gan Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru a dros y Sul fe cyfranddalwyr lleol Cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy gyflwyno apêl aflwyddinaus i’r Uchel Lys er mwyn atal y pryniant.

Cydweithio er budd cwsmeriaid

Mae Hafren Trent, sydd â’u pencadlys yn Coventry, wedi ymrwymo i gadw “biliau yn isel” ac i “fuddsoddi ymhellach” yn y rhwydwaith.

Yn awr, mae Llyr Gruffydd, a oedd wedi cefnogi’r gwrthwynebwyr, yn dweud fod rhaid cadw’r cwmni at eu gair.

“Cyn i’r pryniant gael ei gadarnhau, gwnaed rhai addewidion am swyddi gan Ddŵr Hafren Trent ac rydw i’n gofyn i’r cwmni addo cynnal presenoldeb yng Nghymru,” meddai. “Mae gwir angen swyddi da ar ardal Wrecsam a bydd hyn yn ergyd drom i’r 80 o gyflenwyr lleol.”

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd wedi dweud bod y penderfyniad yn “codi cwestiynau dwys” – “pwy sy’n elwa a phwy ddylai cael budd o ddŵr Cymru? Mae hynny’n ddadl y dylid ei pharhau gan fod yna berygl go iawn i ni golli rheolaeth ar fwy o’n diwydiant dŵr yn y dyfodol agos.”