Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i farwolaeth dyn mewn melin bapur yng Nglannau Dyfrdwy ddoe.

Bu farw’r dyn yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ddydd Llun, Chwefror 6.

Roedd adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan lori, ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bellach fod y mater wedi’i drosglwyddo i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

“Mae’r dyn a gafodd ei arestio ddoe mewn cysylltiad â’r digwyddiad bellach wedi cael ei ryddhau heb gyhuddiad ac ni fydd yr heddlu yn ymchwilio ymhellach i’r digwyddiad,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd, Neil Harris.

“Rydym yn cydymdeimlo’n arw â theulu a ffrindiau’r ymadawedig ar yr amser anodd hwn.”