Llun: PA
Mae ymchwil newydd yn dangos bod cyfartaledd o wyth ymosodiad geiriol neu gorfforol yn digwydd bob dydd ar athrawon a staff ysgolion yng Nghymru.

Mae hynny’n cyfateb i tua 1,500 digwyddiad y flwyddyn, a 4,500 yn ystod y tair blynedd academaidd ddiwethaf.

Daw’r ffigurau hyn yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan yr undeb athrawon NUT Cymru.

Fe gawsant atebion gan 17 o’r 22 awdurdod lleol, ond ni ddaeth atebion gan Ben-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Conwy na Sir Ddinbych.

‘Annerbyniol’

“Yn amlwg mae unrhyw ddigwyddiad o ymosodiadau corfforol neu eiriol gan ddisgyblion ar athrawon neu unrhyw aelod o staff yr ysgol yn annerbyniol,” meddai Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans.

“Mae gweld cyfartaledd o tua 1,500 digwyddiad y flwyddyn yn bryder mawr,” meddai wedyn.

“Ni ddylai’r un athro deimlo’n anniogel neu wedi’u bygwth o fewn eu hamgylchedd gwaith. Mae hynny’n effeithio ar yr athrawon yn unigol ac wrth gwrs ar eu gallu i ddarparu safon uchel o addysg i weddill y dosbarth.”

Mae’r ffigurau’n dangos mai Sir Benfro oedd â’r nifer fwyaf o ymosodiadau geiriol a chorffol wedi’u cofnodi, sef 1,345.

Ond mae NUT Cymru’n codi cwestiynau am y modd y mae awdurdodau lleol yn cofnodi materion o’r fath, ac yn dweud fod angen i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ystyried hyn.