Jo Stevens (llun o'i gwefan)
Mae Aelod Seneddol Canol Caerdydd wedi bod yn esbonio ei phenderfyniad i ymddiswyddo fel llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru.

Mewn erthygl ym mhapur newydd y Guardian heddiw, dywed Jo Stevens pam na allai ddilyn gorchymyn ei harweinydd Jeremy Corbyn i bleidleisio o blaid Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth drafod ei bwriad i bleidleisio yn erbyn Erthygl 50, dywed y bydd yn pleidleisio dros fuddiannau economi, swyddi, sgiliau, diwydiant ac amaethyddiaeth Cymru, a thros werthoedd rhyngwladol ei phlaid.

“Mae angen inni sefyll dros ein haelodau a’n cefnogwyr ledled Prydain a bleidleisiodd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae angen i mi hefyd sefyll dros fy etholwyr yng Nghanol Caerdydd,” meddai.

‘Fy mhleidlais bwysicaf erioed’

“Mae fy etholaeth yn feicrocosm o lawer o’r hyn yw Prydain. Etholaeth hynod fywiog, amrywiol ac ifanc yn ddemograffig, ond wedi ei pholareiddio yn economaidd. Ym mis Mehefin 2016, roedd fy etholwyr, fel finnau, yn glir iawn bod arnyn nhw eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pan fyddaf yn bwrw fy mhleidlais bwysicaf erioed y byddaf yn ei bwrw fel AS, byddaf yn pleidleisio drostyn nhw.

“Fe fyddaf hefyd yn pleidleisio dros Gymru, sydd ar ei hennill o £245 miliwn yn flynyddol yn sgil cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Mae 68% o’n hallforion yn mynd i wledydd yr UE, ac mae rhannau o’n sector ffermio a chynhyrchu bwyd yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar farchnad yr UE.

“Yr wythnos nesaf felly, byddaf yn pleidleisio dros fy ninas, fy ngwlad a’m plaid ac yn pleidleisio yn erbyn mesur y llywodraeth.”