Bonion rhai o'r coed hynafol gafodd eu dymchwel yn y Coed Duon.
Mae coed fu’n sefyll ers 200 mlynedd wedi eu torri lawr yn anghyfreithlon yn y Coed Duon ger Caerffili.

Rhaid cael trwydded i dorri’r fath goed meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff sy’n cynnal ymchwiliad i’r mater.

Fe gafodd tua 200 o goed gwrych ffawydd hynafol eu canfod yn ddiweddar ac mae disgwyl i’r sawl fu’n gyfrifol gael ei gosbi.

Dywedodd Jim Hepburn, Swyddog Rheoli Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae hwn yn achos difrifol a fydd yn cael effaith ofnadwy ar yr amgylchedd lleol a bydd pobl leol yn anhapus yn ei gylch.

“Roedd y coed hŷn tua 150 – 200 mlwydd oed ac roedden nhw wedi bod yn darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, a byddwn yn gweithredu yn erbyn y rhai a fu’n gyfrifol.”