Gall ystod o brentisiaethau fod dan fygythiad meddai ColegauCymru
Mae’r elusen addysg sy’n cynrychioli’r 14 coleg neu sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sgiliau ôl-16 i Gymru.
Daw galwad ColegauCymru wrth i Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol drafod effaith Ardoll Prentisiaethau’r Deyrnas Unedig ar fusnesau yng Nghymru.
Yn ôl Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru, “mae colegau a darparwyr hyfforddiant yn cyflwyno ystod o brentisiaethau a allai fod dan fygythiad gan gyflwyniad o’r ardoll a’r golled o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ar gyfer sgiliau.”
‘Difrifol ddiffygiol’
Ychwanegodd Iestyn Davies, “mae’r pwyllgor yn edrych ar effaith yr Ardoll Brentisiaeth ar fusnesau yng Nghymru, ac er bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig strategaeth ar waith ar gyfer Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn ddifrifol ddiffygiol gydag ymateb strategol ei hun.
“Nid yn unig yw hyn yn cwestiynu dyfodol prentisiaethau, ond addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn ehangach,” meddai Iestyn Davies.
Tynnodd ColegauCymru sylw fod cyllideb 2017/18 yn rhoi pwyslais ar gyllid addysg bellach gyda chefnogaeth drawsbleidiol.
Er hyn, ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn cefnogi galwad ColegauCymru am gynllun sgiliau ôl-16.
Dywedodd Darren Millar, “byddai strategaeth glir gyda thargedau sgiliau, ynghyd ag ymrwymiad cyllidol, yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar golegau Cymru i gynllunio i’r dyfodol.”