Bashir Naderi (ar y chwith) gyda'i gariad
Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn wynebu galwadau newydd i atal llanc o Gaerdydd rhag cael ei anfon o Gymru i Afghanistan.

Bydd Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, Jo Stevens, yn cyflwyno deiseb â dros 14,000 o enwau a llythyr i’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn galw arni i adael i Bashir Naderi, 19 oed, aros yn y Deyrnas Unedig.

Bydd ei gariad, Nicole Cooper a’i theulu a chefnogwyr yr ymgyrch yn ymuno â Jo Stevens yn y Swyddfa Gartref yn Llundain, ac mae’r cantorion, Charlotte Church a Cerys Matthews, hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Ffoi rhag y Taliban

Fe wnaeth Bashir Naderi ffoi i Brydain o Afghanistan pan oedd yn 10 oed ar ôl i’r Taliban lofruddio ei dad.

Er bod y myfyriwr wedi byw yng ngwledydd Prydain am naw mlynedd bellach, ac er nad yw’n siarad yr un iaith Affganaidd, cafodd orchymyn gan y Swyddfa Gartref i “adael y wlad” ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd y gorchymyn ei ddal yn ôl oriau cyn oedd i fod dal awyren i Kabul ac mae’r Gweinidog Mewnfudo, Robert Goodwill, yn ystyried gwneud achos newydd i’w anfon o’r wlad.

System alltudio – “pryder mawr”

“Mae Bashir Naderi wedi bod yng Nghaerdydd ers naw mlynedd, mae wedi mynd i’r ysgol a choleg fan hyn a dw i ddim yn gwybod pam bod system y Swyddfa Gartref yn golygu ei fod nawr yn cael ei dargedu ar yr adeg lle gallai ddefnyddio ei addysg a’i sgiliau i ddechrau gweithio a chyfrannu at gymdeithas,” meddai Jo Stevens.

“Dw i’n ddiolchgar am gefnogaeth y miloedd o enwau i’r ddeiseb hon y bydda’ i’n ei chyflwyno heddiw ynghyd â llythyr i’r Swyddfa Gartref.

“Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyfaddef nad ydyn nhw’n cadw cofnodion o nifer y bobol ifanc sydd yn y sefyllfa hon – sydd wedi cyrraedd yn blentyn heb oedolyn – ond mae’n bryder mawr i mi fod person ifanc sydd â’i gartref yn y Deyrnas Unedig yn cael ei anfon i wlad beryglus pan fydd yn troi’n 18, er gwaethaf ei fod wedi cael ei addysg fan hyn a’i fod am gyfrannu.”