David Skeen o Dalgarth, Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth.

Cafodd David Skeen, 51, sydd o Dalgarth ei weld diwethaf cyn iddo fynd i loncian am 9yb dydd Mawrth, 3 Ionawr.

Mae’r rhedwr yn 5’ 8” o daldra, yn denau a gyda gwallt byr golau ac mi roedd yn gwisgo siaced oren, trowsus rhedeg du, esgidiau golau a het las pan gafodd ei weld diwethaf.

Mae’r Heddlu yn apelio ar aelodau’r cyhoedd i ffonio 101 os oes ganddyn nhw wybodaeth amdano.