Y mwg yn codi ger yr A55 (Llun Golwg360)
Fe gafodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu galw i fferm gerllaw Llangefni y bore yma wrth i fwg du godi’n gymylau wrth ochr priffordd yr A55.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth roedden nhw wedi llwyddo i ddiffodd tân mewn dau gerbyd amaethyddol ar fferm yn ardal Bodorgan.

Does dim gwybodaeth eto am faint a gwerth y difrod ond roedd un pwmp wedi ei anfon o Langefni a’r diffoddwyr wedi defnyddio dwy bibell i ddiffodd y fflamau.

Roedd y gwasanaeth wedi ei alw ychydig ar ôl 11.30 y bore yma.