Georgina Symonds
Ddydd Llun bydd rheithgor yn parhau i ystyried a yw miliwnydd o’r Fenni, a grogodd fam ifanc, yn euog o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Peter Morgan, 54, ladd Georgina Symonds, 25, yn ei byngalo yng Nghasnewydd.

Roedd yn ei thalu i fod yn gymar personol iddo ac wedi clywed am ei chynlluniau i’w flacmelio, ei adael a gweithio i ddynion eraill.

Fe wnaeth y tad i ddwy ferch dalu Georgina Symonds hyd at £10,000 y mis a gadael iddi fyw heb rent mewn tŷ gwerth £300,000.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod gan Georgina Symonds gyfres o luniau preifat o Peter Morgan, dyn sydd werth £20 miliwn, ac roedd wedi bygwth eu dangos i’w wraig a’u merched.

Gwadu llofruddiaeth

Mae’r dyn busnes o Lanelen, Y Fenni, yn cyfaddef iddo ladd Georgina Symonds ond yn gwadu llofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll a’i fod wedi colli rheolaeth.

Dywedodd yr Ustus Garnham wrth y rheithgor: “Dan yr amgylchiadau penodol hyn, dim ond dau ddyfarniad sydd ar gael i chi – euog o lofruddiaeth neu ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.”

“Mae llawer o dystiolaeth yn yr achos hwn a byddwch am ei hystyried yn ofalus. Does dim pwysau amser arnoch o gwbl.”