Mae dros hanner y bobol sydd mewn grwpiau risg yng Nghymru, heb gael eu brechu yn erbyn y ffliw eleni.

Mae’r ystadegau diweddara’n dangos nad yw 6 o bob 10 o bobol (57.8%) o dan 65 oed wedi cael eu brechiad hyd yn hyn – sefyllfa allai arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol ar adeg o’r flwyddyn pan ydym i gyd yn awyddus i osgoi bod yn sâl.

Mae lefelau isel o ffliw yn cylchredeg yng Nghymru, a’r disgwyl y bydd hyn yn cynyddu wrth inni fynd mewn i’r gaeaf.

Mae’r feirws yn lledu’n hawdd – trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian.

Pwy sy’n gymwys i gael brechlyn am ddim?

* Mae pobol sydd â chyflwr hir dymor ar y frest, gan gynnwys rheiny sydd yn cymryd steroids drwy eu hanadlu, mewn peryg o gael cymhlethdodau os yn dal ffliw, ond dim ond 41.6% o’r grŵp hwn sydd wedi cael eu brechlyn y gaeaf hwn;

* Mae pobl a chanddynt glefyd yr iau yn fwy tebygol o gael heintiau ac o fynd yn ddifrifol wael os y cânt salwch;

* Mae’r brechlyn yn cael ei argymell ar gyfer gofalwyr a gweithwyr iechyd neu gymdeithasol rheng flaen hefyd, er mwyn eu diogelu eu hunain a’r rheiny yn eu gofal;

* Y cyflyrau iechyd hirdymor eraill lle y mae mwy o risg o gymhlethdodau os yw rhywun yn cael ffliw yw diabetes, clefyd y galon a’r arennau, a rhai cyflyrau niwrolegol fel strôc a strôc fechan.  Mae’r rheiny sy’n ddifrifol ordew (BMI o 40 neu ragor) hefyd mewn peryg ac yn gymwys o dan y rhaglen frechu.

* Mae menywod beichiog a phobl 65 a throsodd hefyd yn rhan o’r rhaglen, gan eu bod yn wynebu mwy o risg o gymhlethdodau o ffliw;

* Mae pob plentyn dwy a thair oed ar 31 Awst 2016, a phlant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un, dwy a thair yn yr ysgol (plant 4-7 gan amlaf) yn cael cynnig cael eu diogelu gan frechlyn ffliw chwistrell trwyn.