Mae gwrandawiad apêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygiad o 366 o dai ym Mhen-y-ffridd, Bangor, ar ei ail ddiwrnod heddiw.

Roedd y Cyngor wedi gwrthod caniatâd ar sail niwed y datblygiad i’r Gymraeg yn lleol, ond mae cwmni Morbaine o gyffiniau Widnes ar lannau Mersi, yn apelio’n erbyn y penderfyniad hwnnw.

Yn dadlau gerbron yr Arolygydd Cynllunio, Kay Sheffield, ddoe, fe fu pedwar o gynrychiolwyr cwmni Morbaine; y Cyngorwyr John Wyn Williams a Seimon Glyn o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd; tri swyddog o Adran Gynllunio Gwynedd; aelod lleol Cyngor Gwynedd, Gareth Roberts; a Howard Huws o fudiad Cylch yr Iaith.

Y gyfraith o blaid y Gymraeg?

“Mae gorddatblygu tai y tu hwnt i anghenion lleol wedi peri difrod ofnadwy i gymunedau Cymraeg ers ddegawdau,” meddai Howard Huws wrth golwg360.

“Y mae’r achos hwn yn un arwyddocaol dros ben, oherwydd am y tro cyntaf, mae awdurdod lleol wedi penderfynu gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad tai enfawr – y mwyaf yn hanes Gwynedd – ar sail lles y Gymraeg.

“Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 nawr yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg yn berthnasol wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatadau unigol ai peidio,” meddai wedyn.

“Beth bynnag fo canlyniad yr achos hwn, mae’n debyg nad yw ond y cyntaf o gyfres o frwydrau er mwyn atal y math o ddatblygiadau sydd wedi gwneud siaradwyr y Gymraeg yn lleiafrif yng nghynifer o fröydd Cymru.”