Mae disgwyl y bydd cynllun a allai sicrhau dyfodol gwaith dur Port Talbot yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Fe fydd arweinwyr a miloedd o weithwyr yn cyfarfod i drafod dêl a allai gael gwared ag ansicrwydd y misoedd diwetha’, wrth i undebau Unite, GMB a Community gyfarfod â chynrychiolwyr perchnogion y safle, Tata.

Ar y bwrdd fe fydd cynlluniau yn ymwneud â buddsoddiad yn safle Port Talbot a mannau eraill yng ngwledydd Prydain, ynghyd â chynlluniau i sicrhau swyddi a phensiynau. Mae’r cyfan oll wedi bod i fyny yn yr awyr ers i Tata roi eu busnesau ar werth ym mis Mawrth eleni.

Mae disgwyl i unrhyw gytundeb a allai ddod i fwcwl heddiw gael ei roi gerbron y gweithwyr mewn balot, a does dim disgwyl i neb wybod canlyniad y bleidlais honno tan y flwyddyn newydd.

Mae dros 4,000 o weithwyr yn gyflogedig gan Tata ym Mhort Talbot, gyda channoedd eraill ar safleoedd Trostre a Shotton yng Nghymru.