Mae ymchwil newydd gan Gwmni BT a Unicef wedi canfod fod 94% o athrawon yn pryderu am ddiogelwch plant ar y We.

Yn ôl yr ymchwil mae 3/10 o athrawon Cymru wedi cynghori rhiant am ddiogelwch eu plant ar y We.

Pryderon mwya’r athrawon yw fod plant yn dioddef bwlio ar y We a dyma destun trafodaeth gyson rhwng rhieni ac athrawon yng Nghymru.

Hefyd mae rhieni yn gofidio fod plant yn rhoi manylion personol i ddieithriaid, gyda 87% wedi trafod diogelwch ar y We gyda’u plant.

Dywedodd Pete Oliver ar ran Cwmni BT: “Mae’r We fyd eang yn offeryn pwerus iawn, yn enwedig i blant. Mae’r amser y mae plant yn ei dreulio ar y We yn cynyddu, yn enwedig i blant rhwng 8 a 11 oed. Fe all fod yn gyfnod anodd i rieni sydd dim o reidrwydd yn deall y byd digidol, ac mae mwyafrif o rieni yn pryderu am eu plant ar-lein. Serch hynny, gyda’r wybodaeth iawn a’r oruchwyliaeth gan riant yn ei le, gallwn sicrhau fod y We yn lle diogel.”

Dywedodd Catherine Cottrell ar ran Unicef: “Yr ydym yn gweithio gydag ysgolion ledled y wlad i greu lle diogel ac ysbrydoledig i ddysgu, ble mae plant yn cael eu parchu a’u hawliau yn cael eu gwarchod.”