Mae rhieni merch bump oed fu farw o ganlyniad i diwmor prin ar yr ymennydd yn galw am gefnogi deiseb er mwyn cael cynnal dadl am y cyflwr yn San Steffan.

Bu farw Phoebe Florence Read, oedd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Phoebe Flo, lai na phythefnos yn ôl ar ôl i’w theulu fod yn codi arian yn y gobaith o gael derbyn triniaeth ar gyfer y cyflwr.

Mae’r ddeiseb, a gafodd ei sefydlu gan deulu merch fach chwech oed o Lundain, eisoes wedi denu dros 27,000 o lofnodion, ond mae angen 100,000 o lofnodion cyn y bydd modd cynnal dadl wleidyddol.

Dyddiad cau’r ddeiseb yw Rhagfyr 3.

Marwol

Mae tiwmor DIPG yn farwol ym mron pob achos gan nad oes modd rhoi llawdriniaeth i blant sy’n dioddef o’r cyflwr.

Ar hyn o bryd does dim gwellhad o’r cyflwr sy’n effeithio’n bennaf ar blant rhwng pump a 10 oed, ac mae plant sy’n dioddef o’r cyflwr yn byw am naw mis ar gyfartaledd ar ôl cael diagnosis.

Dim ond 1% o wariant ar ganser sy’n mynd at ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd ar hyn o bryd.

Ar ôl i’r ddeiseb ddenu 10,000 o lofnodion, ymatebodd Llywodraeth Prydain drwy ddweud eu bod nhw wedi sefydlu gweithgor newydd er mwyn cynnal rhagor o ymchwil i effaith y salwch ar blant a’u teuluoedd.

Mae disgwyl i’r gweithgor adrodd yn ôl i’r Llywodraeth dair gwaith cyn i’w gwaith ddod i ben fis Medi 2017.

Hanes Phoebe Flo

Cafodd Phoebe Florence Read wybod fis Hydref y llynedd ei bod hi’n dioddef o’r canser prin.

Bu’n derbyn gofal yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd, a’r gobaith oedd codi £85,000 er mwyn derbyn triniaeth arloesol a fyddai wedi ymestyn ei hoes – roedden nhw wedi codi dros £90,000 erbyn i’r gronfa gael ei chau.

Roedd hi hefyd wedi bod yn derbyn radiotherapi yng nghanolfan Felindre yng Nghaerdydd, ond doedd dim modd iddi dderbyn cemotherapi.

Roedd hi’n un o 40 o blant yn unig yng ngwledydd Prydain sydd wedi cael diagnosis o DIPG.