Mae cyn heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei ddarganfod yn farw, ychydig o ddyddiau wedi iddo gael ei holi gan yr heddlu.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Robert Jones-Welch, 50, yn ei gartref yn Rhosgoch ym Môn ar Dachwedd 13.

Mae’r achos wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu am fod y cyn-swyddog oedd wedi ymddeol wedi bod mewn cyswllt â’r heddlu yn fuan cyn ei farwolaeth.

Nid oes manylion wedi’u rhyddhau ynglŷn â natur y farwolaeth, ond nid yw’n cael ei ystyried fel yn amheus, yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r crwner lleol wedi agor cwest er mwyn cynnal ymchwiliad i’r farwolaeth.

Fe ddaeth cadarnhad fod yr heddlu wedi’u galw i safle yng ngogledd Ynys Môn am 7.45yh ar Dachwedd 13, a hynny wedi i gorff dyn gael ei ganfod.