Safle purfa olew Valero ym Mhenfro Llun: Gwefan Valero
Mae perchnogion purfa olew ym Mhenfro wedi cyflwyno cynlluniau gwerth £100 miliwn ar gyfer y safle.

Bwriad Valero yw adeiladu gorsaf bŵer a fyddai’n cynhyrchu trydan a gwres ar y safle.

Mae’r cyhoeddiad yn hwb i’r safle a dywed y cwmni y bydd yn diogelu swyddi yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol.

Mae’r cwmni’n cyflogi tua 550 o weithwyr ar y safle ynghyd a 400 o gontractwyr.

Fe fydda’r orsaf newydd yn cynhyrchu trydan ar gyfer y burfa yn ogystal â stem pan fyddai ei angen.

Dywed Valero mai dyma gamau cynta’r cynlluniau ac na fydd yn gwneud penderfyniad terfynol tan y flwyddyn nesaf.

Roedd y cwmni, sydd a’i bencadlys yn Tecsas, wedi prynu purfa olew Penfro yn 2011 mewn cytundeb gwerth £447 miliwn.

Yn ôl Valero, fe fyddai’r orsaf yn fuddsoddiad “sylweddol” ac mae’n dangos hyder y cwmni yn y gweithlu a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ers prynu’r burfa.

‘Cyflogwr pwysig i’r ardal’

“Mae’r newyddion heddiw fod Valero wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu gorsaf bŵer gwerth £100 miliwn yn eu purfa ym Mhenfro yn newyddion arwyddocaol a chalonogol i sir Benfro ac Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae Valero yn gyflogwr pwysig iawn yn yr ardal yn cefnogi dros fil o deuluoedd sy’n dibynnu ar y gyflogaeth a swyddi da sy’n cael eu cynnig gan y burfa.

“Yn dilyn cau’r burfa Murco yn 2014, mae Valero bellach yn un o’r unig chwe phurfa strategol yn y Deyrnas Unedig.”