Cymru 33–30 Siapan

Cael a chael oedd hi wrth i Gymru guro Siapan yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd angen gôl adlam gan Sam Davies yn eiliadau olaf y gêm ar Gymru i osgoi’r embaras o gêm gyfartal gartref yn erbyn tîm o’r ail haen o rygbi rhyngwladol.

Hanner Cyntaf

Cafwyd deg munud cyntaf digon simsan gan Gymru, Liam Williams yn cael ei anfon i’r gell gosb am newid ongl ei rediad yn sinigaidd i atal Akihito Yamada a Yu Tamura yn cicio’r ymwelwyr chwe phwynt ar y blaen.

Ymatebodd Cymru’n dda ac roeddynt ar y blaen cyn i Williams ddychwelyd i’r cae diolch i gais rhyngwladol cyntaf Dan Lydiate a throsiad da Leigh Halfpenny o’r asgell dde.

Roedd gan Jamie Roberts dipyn i’w brofi yn y gêm hon yn ôl rhai a chafwyd ymateb da gan y canolwr wrth iddo hyrddio drosodd am ail gais Cymru yn dilyn sgrym bump gref, 14-6 y sgôr wedi trosiad Halfpenny.

Roedd hi’n ymddangos fod Cymru’n dechrau rheoli’r gêm wedi hynny ond dim ond pwynt oedd yn gwahanu’r timau ar yr egwyl diolch i gais Yamada. Rhyng-gipiodd yr asgellwr chwim bas wael Gareth Anscombe wrth y llinell hanner cyn rhedeg yr holl ffordd o dan y pyst, 14-13 y sgôr yn dilyn trosiad Timothy Lafaele.

Ail Hanner

Tri phwynt o droed Halfpenny a oedd unig bwyntiau deg munud agoriadol digon diflas i’r ail hanner.

Fe ddaeth cais yn fuan wedi hynny wrth i ddau flaenwr profiadol gyfuno, Alun Wyn Jones yn bylchu trwy’r canol a’r capten Warburton wrth law i dderbyn y dadlwythiad a sgorio o dan y pyst.

Rhoddodd trosiad Halfpenny un pwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm ond tarodd Siapan yn ôl yn syth o’r ail ddechrau bron. Cipwyd y meddiant, sicrhaodd y blaenwyr bêl gyflym a rhoddodd dwylo chwim yr olwyr Kenki Fukuoka drosodd am gais da yn y gornel chwith.

Ychwanegodd Tamura’r trosiad o’r ystlys cyn i Halfpenny ac yntau gyfnewid cic gosb yr un. Llwyddodd Halfpenny gyda thri phwynt arall wedi hynny ond saith pwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm o hyd gyda deg munud yn weddill.

Caeodd Siapan y bwlch hwnnw yn fuan wedyn gyda chais i Amanaki Lotoahea wedi gwaith da’r wythwr, Amanaki Mafi, i gadw’r bêl yn fyw ar yr ystlys. Unionodd Tamura’r sgôr gyda throsiad gwych arall o’r ystlys ac roedd hi’n anelu am gêm gyfartal gyda phum munud i fynd.

Byddai hwnnw wedi bod yn ganlyniad gwael iawn i dîm Rob Howley ond achubwyd embaras yn yr eiliadau olaf pan drosodd Sam Davies gôl adlam daclus.

Perfformiad siomedig arall gan Gymru felly ond buddugoliaeth yn y diwedd, 33-30 y sgôr terfynol.

.

Cymru

Ceisiau: Dan Lydiate 11’, Jamie Roberts 23’. Sam Warburton 52’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 13’, 24’, 53’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 43’, 60’, 70’

Cerdyn Melyn: Liam Williams 8’

.

Siapan

Ceisiau: Akihito Yamada 38’, Kenki Fukuoka 55’, Amanaki Lotoahea 74’

Trosiadau: Timothy Lafaele 39’, Yu Tamura 57’, 75’

Ciciau Cosb: Yu Tamura 5’, 9’, 63’