Blaine Mortie
Mae dau frawd, a oedd wedi ceisio cuddio y cyffuriau yr oedden nhw’n eu gwerthu ger llwybr troed ym Mae Caerdydd, wedi’u dedfrydu i gyfnodau yng ngharchar.

Mae Blaine Mortie, 31, i dreulio pum mlynedd dan glo am fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u gwerthu.

Mae ei frawd, Dwaine Mortie, 37, wedi’i gael yn euog o’r un drosedd yn Llys y Goron Caerdydd, ac wedi’i ddedfrydu i dair blynedd o garchar.

Ar Fedi 11, 2015, roedd plismyn yn aros am y brodyr ym Mae Caerdydd, ac fe welson nhw Blaine Mortie yn dod i gasglu’r cyffuriau, tra bod ei frawd, Dwaine, yn cadw golwg. Ond fe gafodd y ddau ddyn eu harestio wrth iddyn nhw gerdded y llwybr troed ar ei ffordd oddi yno.

Fe gafodd dau ffôn symudol, a daflwyd ar y pryd i mewn i afon Taf gan Dwaine Mortie, eu hachub o’r dwr a’u defnyddio fel tystiolaeth yn yr archos.

Wrth archwilio fflat y brodyr, fe ddaeth yr heddlu o hyd i werth £14,000 o’r cyffur heroin, bron iawn i £5,000 o arian parod, a llwyth o offer paratoi cyffuriau a thorri cocên.