Emma Baum Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Ar ail ddiwrnod gwrandawiad i lofruddiaeth merch 22 oed o Benygroes, mae Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi clywed tystiolaeth am yr arf a ddefnyddiwyd i’w lladd.

Fis diwethaf fe blediodd cyn-gariad Emma Baum, David Nicholas Davies 25 oed, o Glynnog Fawr ger Caernarfon, yn euog o’i llofruddio. Er hyn, nid yw’n derbyn achos yr erlyniad yn llawn ac mae’n dweud iddo ddefnyddio cyllell yn ystod yr ymosodiad, yn hytrach na chludo bar metel i gartref Emma Baum.

Clywodd y gwrandawiad gan swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru fu’n chwilio am yr arf yn dilyn y llofruddiaeth ym mis Gorffennaf eleni.

Esboniodd PC Bethan Williams ei bod wedi chwilio am yr arf yn ardal Penygroes a bod swyddogion eraill wedi chwilio traeth Afonwen ger Pwllheli hefyd ar 20 Gorffennaf.

Roedd cŵn yr heddlu a deifwyr tanddwr yn rhan o’r archwiliad dros nifer o ddyddiau ond ni ddaethpwyd o hyd i’r arf. Roedd maes chwarae Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a fferm ger Clynnog Fawr wedi eu harchwilio hefyd meddai.

Cefndir

Cafwyd hyd i gorff Emma Baum yng ngardd gefn ei chartref yn Heol Llwyndu, Penygroes ar 18 Gorffennaf eleni. Roedd hi wedi cael anafiadau i’w phen.

Mae’r gwrandawiad yn edrych ar gymhelliad David Nicholas Davies dros lofruddio Emma Baum, cyn penderfynu ar ei ddedfryd.