Fe gyhoeddwyd heddiw mai Delyth Evans, cyn Aelod Cynulliad Llafur tros ganol a gorllewin Cymru, fydd yn cadeirio grŵp gorchwyl i adolygu trefn a strwythur y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Daw wedi i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ddweud ym mis Awst y byddai grŵp newydd yn cael ei sefydlu, i weld a yw trefn bresennol y coleg yn hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y sefydliad yn ddigonol.
Mae prifathrawon, darlithwyr a chyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ymysg gweddill yr aelodau fydd yn cyfrannu at gynnal yr adolygiad.
Fe fydden nhw hefyd yn ceisio darganfod a ddylid ymestyn y cylch gwaith i gynnwys y sector ôl-16 yn hytrach nag Addysg Uwch yn unig.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y swyddogion eraill fydd yn cyfrannu at gynnal yr adolygiad fydd:
- Barry Liles, Prifathro Coleg Sir Gâr;
- Heledd Bebb, cyn ddarlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bellach yn Gyfarwyddwr gyda chwmni Ymchwil OB3;
- Bethan Guilfoyle, cyn brifathrawes Ysgol Gyfun Treorci;
- Rhun Dafydd, wedi ei enwebu fel cynrychiolydd myfyrwyr gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru;
- Yr Athro Mari Lloyd-Williams, darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl, a’r
- Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Cyllid
Cadarnhaodd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 bod y gyllideb ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn awr yn un o gyfrifoldebau Is-adran y Gymraeg.
Mae £5.4m wedi ei ddyrannu i gefnogi gweithgareddau’r Coleg gyda £0.330m ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy CCAUC i gefnogi’r Cynllun Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg.
Fe fydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd i’r Coleg nes bydd y grŵp adolygu wedi adrodd ar ei ganfyddiadau.