Melin Llynnon
Gallai tri o safleoedd treftadaeth mwyaf unigryw Ynys Môn gael eu cau os na fydd rhywun yn dangos diddordeb yn eu rhedeg.
Mae’r Cyngor Sir yn chwilio am sefydliadau eraill i redeg ei safleoedd treftadaeth sy’n cynnwys yr unig felin sy’n gweithio yng Nghymru a charchar Fictorianaidd.
Gofynnir am gynigion gan gynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol, busnesau, ymddiriedolaethau a sefydliadau a hynny’n dilyn ymarfer tebyg lle cafwyd ond un cynnig yn gynharach eleni.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion neu sefydliadau sydd â’r adnoddau, arbenigedd a phrofiad angenrheidiol er mwyn rhedeg:
- Llys Biwmares
- Carchar Biwmares
- Melin Llynnon a’r tai crwn ger Llanddeusant
Partneriaid
“Mae’r Cyngor Sir yn awyddus i weithio gyda phartneriaid er mwyn ymchwilio i ffyrdd newydd o ddarparu profiad cyffrous a deniadol i ymwelwyr â’r tri safle,” meddai’r Pennaeth Dysgu, Delyth Molyneux. “Ein nod yw diogelu dyfodol y safleoedd hyn ac amddiffyn diwylliant a threftadaeth yr Ynys.
“Fodd bynnag, gan ystyried y pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan y Cyngor a’r ffaith nad yw’r safleoedd hyn yn ffurfio rhan o’r gwasanaeth statudol, mae gwir bosibilrwydd y bydd yn rhaid eu cau yn raddol neu’n gyfan gwbwl os na ellir dod o hyd i rywun arall i’w rhedeg.”
Mae’r safleoedd hyn yn cael eu rheoli gan wasanaeth Amgueddfeydd a Diwylliant y Cyngor Sir ar hyn o bryd.
Mae Llynnon ar gau ar hyn o bryd ac mae Llys a Charchar Biwmares ar agor ar benwythnosau ac yn ystod yr hanner tymor ysgol sydd ar y gorwel. Gobeithiwn y bydd diddordeb o’r newydd yn golygu y gallwn ailagor ar gyfer tymor newydd Pasg 2017.
Mae ceisiadau i redeg y safleoedd hyn bellach yn cael eu gwahodd gyda hysbysebion yn ymddangos ar-lein ac yn y wasg leol. Y dyddiad cau i unrhyw un sydd â diddordeb gyflwyno eu ceisiadau busnes yw Tachwedd 11, 2016.
Mae’r tri safle yn cael eu rheoli gan wasanaeth Amgueddfeydd a Diwylliant y Cyngor Sir ar hyn o bryd.