Mae’r rheithgor yn yr achos yn erbyn cyn-swyddog heddlu o Fae Colwyn sydd wedi’i gyhuddo o gam-drin dau o blant, wedi cychwyn ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Bellach yn 79 oed, mae’r cyn-uwch-arolygydd Gordon Anglesea wedi’i gyhuddo o ddefnyddio ei ‘gysylltiadau mewn awdurdod’ i gymryd mantais o fechgyn tra’n dditectif yn Wrecsam yn y 1980au.

Fe honnwyd fod Gordon Anglesea wedi cael ei weld yng nghartref pidoffeil a’i fod yn ymwelydd cyson i Gartref Plant Bryn Alyn a oedd yn cael ei redeg gan John Allen, dyn sy’n treulio oes yn y carchar am gam-drin plant yn rhywiol yno.

Ennill achos

Fe wnaeth Gordon Anglesea ennill £375,000 o iawndal mewn achos yn 1994 yn erbyn pedwar asiantaeth gyfryngol a oedd yn honni ei fod ynghlwm â cham-drin rhywiol mewn cartrefi plant.

Mae Gordon Anglesea yn gwadu tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o sodomiaeth rhwng 1982 a 1987, yn erbyn dau o fechgyn a oedd yn 14 neu 15 ar y pryd.

Wrth grynhoi’r dystiolaeth dywedodd y Barnwr Geraint Walters wrth y rheithgor: “Fedrwch chi ddedfrydu’r diffynnydd os ydych yn sicr fod yr achwynyddion sy’n honni ei fod wedi gwneud y pethau hyn yn dweud y gwir, a’u bod wedi cofio’n gywir amdano, ac mai efo oedd y dyn a wnaeth y pethau hyn yn eu herbyn.”

Mae Gordon Anglesea wedi mynnu wrth y rheithgor fod yr honiadau yn ei erbyn yn “gwbl anwir” a’i fod yn ysglyfaeth i gyfres o gelwyddau wedi eu hysgogi gan bobol yn gobeithio cael iawndal ariannol.