Andrew 'Pwmps' Davies (Llun: o wefan Cronfa Andrew Pwmps)
Mewn ychydig dros wythnos fe fydd un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd yr wythdegau yn ailffurfio ar gyfer cyngerdd arbennig i gofio am eu drymiwr, Andrew Davies.
Bu farw Andrew ‘Pwmps’ Davies yn 52 oed ddechrau Chwefror eleni ar ôl dioddef o gancr a derbyniodd ofal yn hosbis Tŷ Gwyn.
Roedd yn byw yng Nghaerfyrddin, ac yn ddyn camera a weithiodd ar amrywiaeth o raglenni a chyfresi i S4C dros bedwar degawd, gan gynnwys Newyddion S4C, Cefn Gwlad a Ffermio.
Un o ganeuon mwyaf adnabyddus y grŵp Eryr Wen oedd ‘Gloria Tyrd Adre’ a enillodd Cân i Gymru yn 1987, ac yn ymuno â nhw yn y gyngerdd bydd Ail Symudiad, Cadi Gwen a Richard Rees wrth iddynt godi arian at Gronfa Andrew Pwmps.
Bwriad y gronfa honno, sydd i’w gweld yma, yw cynorthwyo eraill sy’n sâl ac yn gweithio i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru os ydynt yn llawrydd neu’n hunangyflogedig.
Mae’r gronfa yn nodi: “mae dioddefwyr yn aml yn methu gweithio yn ystod triniaeth ac ati ac yn ei gweld hi’n anodd yn ariannol, y gobaith yw y gall y Gronfa yma gynorthwyo.”
‘Noson Nostalgia’, Neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin, Hydref 29, 7.30yh.