Mae’r ffaith fod Ham Sir Gâr wedi cael statws Enw Bwyd Gwarchodedig (EUPFN) gan yr Undeb Ewropeaidd yn hwb aruthrol i’r diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru.

Aeth Ham Sir Gâr ati gyntaf i wneud cais am Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig ym mis Tachwedd 2011 ac mae ennill y statws yn newyddion o bwys i unrhyw gynnyrch.

Ers i Gig Oen Cymru ennill y statws yn 2003, mae cynnydd o £76.3 miliwn wedi bod yng ngwerth y cig defaid sy’n cael ei allforio.

Mae gan Gymru nifer o gynhyrchion sydd wedi llwyddo i ennill statws gwarchodedig. Yn eu plith y mae Cig Eidion Cymru, Halen Mȏn,  tatws newydd cynnar Sir Benfro, Cregyn Gleision Conwy a Gwin o Gymru.

Hefyd, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wrthi ar hyn o bryd yn ystyried saith cais arall o wledydd Prydain, pob un ohonyn nhw o Gymru.

Croesawyd y newyddion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’r ffaith bod Ham Sir Gâr wedi cael statws gwarchodedig yn newyddion gwych i’r cynnyrch ei hun ac i Gymru.

“Mae statws EUPFN yn sicrhau na ellir efelychu nac atgynhyrchu’r cynnyrch heb fodloni gofynion llym iawn, ac mae hynny’n beth gwych i enw da’r cynnyrch.”