Mae meddygon yn rhybuddio am beryglon e-sigarets ar ôl i nifer sylweddol o bobol gael triniaeth eleni am losgiadau.

Dywed llawfeddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe eu bod nhw wedi trin pump o bobol am losgiadau ar ôl i e-sigarets ffrwydro.

Dywedodd y llawfeddyg Dai Nguyen: “Cyn eleni doedden ni ddim wedi gweld anafiadau o’r fath. Nawr ry’n ni wedi cael pump sy’n adlewyrchu poblogrwydd cynyddol yr e-sigarets yma.

Roedd gan dri o’r pump e-sigaret yn eu poced wnaeth ffrwydro ac yn eu plith roedd unigolyn 25 oed oedd yn chwarae â pheli paent ar y pryd, a gweithiwr ffatri a gafodd losgiadau i’w goes a’i law.

Mae’r rhybudd wedi cael ei ategu gan y gwasanaeth tân a swyddogion safonau masnach sydd wedi dod ynghyd i godi ymwybyddiaeth o beryglon prynu nwyddau rhad neu rai sydd wedi cael eu mewnforio.

Mae llawfeddygon wedi llunio dogfen yn galw am dynhau’r rheolau ar fewnforio e-sigarets.

Ychwanegodd Dr Nguyen: “Nid dim ond ni sy’n gwneud, mae’n rhywbeth sydd hefyd yn cael sylw ar draws y genedl. Dim ond y copa ry’n ni’n ei weld.

“Dw i’n amau bod llawer o unedau brys yn ymdrin â’r digwyddiadau hyn ond nad ydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw.”

Ychwanegodd fod nifer o achosion o e-sigarets yn ffrwydro yng nghegau pobol, gan arwain at “anafiadau catastroffig” sy’n “debyg i gael eich saethu yn eich wyneb gyda dryll”.

Mae swyddog safonau masnachu Cyngor Abertawe, David Picken wedi rhybuddio cwsmeriaid i beidio â phrynu nwyddau rhad sydd wedi cael eu mewnforio.

Dywedodd nad yw e-sigarets “bob amser wedi cael eu hadeiladu i’r safonau diogelwch cywir ac yn aml yn ffug”.

“Cymerwch ofal ychwanegol wrth brynu ar-lein. Ystyriwch yn ofalus ai’r rhataf yw’r gorau, yn enwedig pan fo’r nwyddau’n dod atoch chi’n uniongyrchol gan fusnes o’r tu allan i’r DU a’r Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd y dylai pobol wirio bod label ar yr e-sigarets sy’n dangos eu bod nhw wedi pasio’r safonau priodol.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, maen nhw wedi cael eu galw i chwech achos o dân mewn tai sydd wedi cael eu hachosi gan e-sigarets, ac mae pryderon fod rhagor heb eu hadrodd.