Jordan Woonton
Mae rheithgor cwest i farwolaeth bachgen 15 mlwydd oed a fu farw mewn cartref plant yng Nghymru wedi dweud bod methiannau yn y cartref yn rhannol gyfrifol am ei farwolaeth.

Penderfynodd y rheithgor yn Llys Crwner Caerdydd heddiw bod rheoli amser gweinyddol aneffeithiol –  gan gynnwys trosglwyddo o un shifft i’r nesa, asesiadau risg a logiau dyddiol nad oedd yn ddigon da –  yn ôl pob tebyg wedi cyfrannu at farwolaeth Jordan Woonton.

Daeth y cwest i ben heddiw ac mae hi wedi cymryd dros bedair blynedd oherwydd ymchwiliad troseddol blaenorol wnaeth arwain at ddirwyo Hillcrest Care, y cwmni oedd yn berchen ar Gartref Pentwyn, yn dilyn marwolaeth plentyn oedd yn ei ofal.

Cefndir 

Cafodd Jordan Woonton o Nottingham ei roi mewn gofal gan Gyngor Dinas Nottingham yn 2010. Ond wedi iddo geisio rhedeg i ffwrdd sawl gwaith cafodd ei symud i Gartref ac Ysgol Plant Pentwyn ger Y Gelli Gandryll mewn ymgais i’w atal rhag dianc.

Ar 18 Mehefin, 2012, cafodd ei ddarganfod wedi marw yn ei ystafell yn y cartref. Roedd wedi crogi ei hun.

Clywodd y cwest nad oedd gan yr aelod o staff oedd yn gyfrifol ar noson marwolaeth Jordan Woonton y cymwysterau priodol ac roedd dryswch ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol.

Dywedodd un aelod o staff wrth y cwest nad oedd anghenion y bechgyn yno yn cael eu bodloni ac nad oedd llawer o’r staff yn ymwybodol bod Jordan Woonton wedi gwneud bygythiadau blaenorol i niweidio neu ladd ei hun cyn ac yn ystod ei gyfnod ym Mhentwyn.

‘Pythefnos anodd iawn’

Dywedodd un o’r cyfreithwyr oedd yn cynrychioli teulu Jordan Woonton, Baishali Clayton, bod y pythefnos diwethaf wedi bod yn “anodd iawn” i’r teulu.

Meddai: “Mae’r teulu’n credu bod Jordan wedi cael ei siomi gan y system oedd i fod i’w amddiffyn. Maen nhw’n teimlo na ddylai o erioed fod mewn sefyllfa lle’r oedd ganddo’r modd i gymryd ei fywyd ei hun.

“Mae’r teulu wedi bod yn amyneddgar iawn yn y pedair blynedd ers marwolaeth Jordan gan aros am atebion. Rwy’n gobeithio, ar ôl cael y cyfle i wrando ar y dystiolaeth a roddwyd gan y darparwyr gofal oedd yn rhan o fis diwethaf Jordan, gall ei deulu gael diweddglo yn dilyn y cwest i’w farwolaeth.”