Wrth i drigolion Caerdydd wneud eu ffordd i’r gwaith y bore yma, bydd llawer llai ohonynt yn gwneud hynny mewn ceir, ar ddiwrnod di-gar y brifddinas.

Mae gofyn i deithwyr ddod o hyd i ffyrdd eraill, mwy cynaliadwy, i deithio o amgylch y ddinas wrth i Gaerdydd ymuno â Diwrnod di-Draffig y Byd heddiw.

Mae Plas-y-Parc yng Nghathays wedi cau i gerbydau tan hanner nos heno, a bydd marchnad bwyd yn cael ei gynnal yno yn lle.

Yn ôl y cyngor y ddinas, bydd hefyd arddangosfa a stondinau ar drafnidiaeth gynaliadwy yn y farchnad i roi gwybodaeth a chyngor ar ffyrdd gwahanol o deithio.

Anelu i fod y ‘brif ddinas orau’

Dywedodd y Cynghorydd Ramesh Patel, sy’n Aelod Cabinet dros Gynllunio, Trafnidiaeth a Chynaliadwyedd, fod Caerdydd yn anelu i fod y brif ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop, a bod trafnidiaeth gynaliadwy yn rhan o hyn.

“Gyda chyfnewidfa fysus newydd yn cael ei datblygu, strategaeth beicio’n cael ei llunio, buddsoddiadau yn ein rheilffyrdd wedi’u cynllunio a chynlluniau ar gyfer y Metro yn y dyfodol, mae trafnidiaeth gynaliadwy yn brif flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor,” meddai.

“Mae gwneud cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewisiadau mwy deniadol a phosibl i gymudwyr a thrigolion yn rhan hollbwysig o ddatblygiad parhaol Caerdydd a chyflawni ein huchelgais o ddod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop”.