Mae Cynghorwyr Conwy wedi penderfynu arwain a gwthio ymgyrch i herio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 ar gyfer Cymru gyfan.

Mae astudiaethau diweddar wedi dangos diffyg tir ar gyfer tai o ganlyniad uniongyrchol i newidiadau gan Lywodraeth Cymru yng nghanllaw TAN 1 sy’n gosod allan y broses ar gyfer cynhyrchu ‘Cydastudiaethau Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai’.

Mae Cydastudiaeth Conwy wedi nodi diffyg pellach mewn cyflenwad.  Mae’r sefyllfa’r un fath ar draws mwyafrif yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Yn dilyn canlyniadau’r astudiaeth ddiweddaraf yr wythnos ddiwethaf, sbardunwyd Pwyllgor Archwilio Cymunedau Conwy i argymell fod Conwy yn arwain her gadarn ar gyfer Cymru gyfan yn erbyn TAN 1.

Derbyniodd Aelodau’r Cabinet yr argymhellion a diolchodd i’r pwyllgor am archwilio’r mater mor drylwyr.

Y cam nesa’

Bydd y Cyngor bellach yn gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru gynnal adolygiad gweithredol o’r Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai a Chydlyniaeth CDLl a’r effaith ar ba mor addas i’r diben yw CDLlau a’u gwerth am arian, o gofio fod y CDLlau a fabwysiadwyd yng Nghymru yn cael eu tanseilio gan y newidiadau a wnaethpwyd i TAN 1 ym mis Ionawr 2015.

– Bydd y Cyngor hefyd yn gofyn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru herio’r newidiadau i TAN 1 gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC;

– Gofynnir i Aelodau Cynulliad Gogledd Cymru fynd â’r her i’r newidiadau i TAN 1 i Gynulliad Cymru;

– a gofynnir i Gadeiryddion Cynghorau Gogledd Cymru ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC i gofrestru her ffurfiol i newidiadau TAN 1.

Cytunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dilwyn Roberts, herio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gynhyrchu ymateb mwy cadarn a heriol drwy gynrychiolwyr CLlLC yr Awdurdodau Lleol.