Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ymweld â gogledd Cymru heddiw, gan lansio cynllun hyfforddiant gwerth £16 miliwn sydd wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Bwriad y cynllun, meddai, ydi “arwain at greu sylfaen fwy cadarn byth o sgiliau yn yr ardal”, gan gryfhau busnesau.

“Bydd gan y cynllun rôl allweddol i’w chwarae wrth gefnogi datblygiadau economaidd mawr ledled y Gogledd, fel Wylfa Newydd a Pharc Gwyddoniaeth Menai, ac i helpu’r busnesau yn ardaloedd menter y Gogledd i ehangu.”

Arian Ewrop

Mae Carwyn Jones yn credu fod y cynllun hwn yn dangos eu bod yn parhau i wneud y gorau o’r arian sy’n weddill gan yr Undeb Ewropeaidd, “Gyda £10m o arian gan yr Undeb Ewropeaidd, y mae’r cynllun hwn yn enghraifft dda o’r ffordd rydyn ni’n parhau i wneud y gorau o’r cyllid presennol i sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar yr arian hwn.”

Ac mae’n addo na fydd Cymru’n “colli ceiniog o’r arian” gyda Carwyn Jones yn datgan “eu bod yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am warantu cyllid i brosiectau a fydd yn cael eu cytuno ar ôl Datganiad yr Hydref”

Ychwanegodd, “Mae Gogledd Cymru yn barod amdani ac yn lle delfrydol ar gyfer busnesau. Gyda llu o gwmnïau fel Airbus, Raytheon a Magellan yn buddsoddi yno, gall yr ardal adeiladu ar ei llwyddiant.”

Helpu dros 500 o fusnesau

Dan arweiniad Coleg Cambria, bydd y cynllun Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr yn anelu i helpu dros 500 o fusnesau a 7,000 o bobol dros y tair blynedd nesaf drwy roi cymhorthdal o hyd at 70 y cant i fusnesau allu manteisio ar hyfforddiant.

Cynhelir y lansiad ar safle Magellan Aerospace, un o’r cwmnïau a fydd yn elwa o’r cynllun.