Sian Gwenllian a Hywel Williams (o'u tudalen Facebook)
Mae angen manteisio i’r eithaf ar botensial safle diwydiannol anferthol ffatri wag ar gyrion Caernarfon, yn ôl yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol.

Fe fydd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC yn cyfarfod â pherchnogion safle hen ffatri Ferodo Dynamex yng Nghaernarfon ddydd Llun 19 Medi.

Mae’r safle 27 acer, sydd wedi bod yn wag ers 2008, bellach yn eiddo i gwmni datblygu St Francis Group o Swydd Warwick. Mae’r safle tir llwyd mewn cyflwr digon gwael ac mae’r ddau wleidydd yn galw am ddatblygu’r safle cyn gynted ag y bo modd, gyda’r nod o greu swyddi lleol.

“Mae’r safle unigryw yma mewn lle da i ddenu datblygiad o fri, gyda lleoliad heb ei ail ar lannau’r Fenai ynghyd a’i agosrwydd i’r A55 a’r ffordd osgoi arfaethedig,” meddai Hywel Williams.

“Mae’n sarhad i’r gweithwyr a’r undebau a fu’n brwydro’n hir dros eu hawliau, fod y safle yma a arferai fod yn ganolbwynt economaidd yr ardal, bellach yn wag ac mewn fath gyflwr.

“Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar leoliad, maint a photensial economaidd y safle.”

Dywedodd Siân Gwenllian mai eu bwriad wrth alw’r cyfarfod oedd deall beth yn union yw bwriad y perchnogion newydd gyda’r safle.

“Mae Ferodo mewn safle gwych ar gyfer creu swyddi newydd, ond mae wedi bod yn wag, yn flêr ac wedi ei anwybyddu ers yn rhy hir,” meddai.

“Byddwn yn cyflwyno’r achos dros ddatblygu’r safle cyn gynted a phosib, gyda’r bwriad o greu swyddi lleol.”