Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddau ddyn ymosod ar dad a’i ferch yn eu cartref ym Mae Cinmel nos Lun.

Roedd dau ddyn wedi mynd i’r tŷ yn Heol Rhys am 10.55yh nos Lun 29 Awst ac wedi clymu’r dyn 50 oed a’i ferch 19 oed. Fe ymosodwyd ar y tad cyn i’r ddau adael gyda ffonau ac arian.

Mae’r heddlu’n credu bod y ddau wedi gadael y safle mewn car estate lliw arian neu lwyd, tebyg i Audi neu BMW, gyda ffenestri tywyll.

Roedd un o’r dynion yn ei ugeiniau cynnar ac o faint canolig. Roedd ganddo wallt brown tywyll ac roedd yn gwisgo hwdi Adidas du, trowsus llwyd/du a menig du.

Roedd yr ail ddyn hefyd yn ei ugeiniau cynnar, a tua 5’6 i 5’7’ o daldra. Roedd yn gwisgo top Adidas llwyd gyda streipiau glas ar y llewys, trowsus llwyd a trainers Nike llwyd tywyll gyda streipiau glas.

Roedd y ddau yn gwisgo mygydau adeg yr ymosodiad.

“Os oeddech yn yr ardal ar y pryd, yn gwybod unrhyw beth ynglŷn â hyn neu yn adnabod y disgrifiad yna cysylltwch â Heddlu’r Gogledd a’n helpu i adnabod y rhai sy’n gyfrifol,” meddai’r Ditectif Ringyll Mark Doyle.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu yn Llanelwy ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.